Canlyniadau Chwilio - Zapolska, Gabriela
Gabriela Zapolska
Nofelydd a dramodydd Pwylaidd oedd Gabriela Zapolska (Maria Gabriela Korwin-Piotrowska; 30 Mawrth 1857 – 21 Rhagfyr 1921) sydd yn nodedig fel un o'r to naturiolaidd.Ganed yn Podhajce yn rhanbarth Galisia, Ymerodraeth Awstria (bellach Pidhaitsi, Wcráin). Wedi iddi ffaelu fod yn actores ym Mharis, dechreuodd ysgrifennu nofelau cyffrous yn llawn agweddau chwerw at werthoedd moesol ac ymddygiad y dosbarth canol. Y ddwy nofel sydd wedi parhau'n ddarllenadwy ydy ''Zaszumi las'' (1899), ''roman à clef'' am chwyldroadwyr Pwylaidd ym Mharis, a ''Sezonowa miłość'' (1905), sy'n ymwneud â bywyd dosbarth-canol yn nhref Zakopane yn ne Gwlad Pwyl. Esiamplau o genre'r felodrama yw'r mwyafrif o'i gweithiau i'r theatr, ond y ddrama enwocaf ganddi yw'r ffars ''Moralność pani Dulskiej'' (1906). Bu farw yn Lwów, Gwlad Pwyl (bellach Lviv, Wcráin), yn 64 oed. Darparwyd gan Wikipedia