Canlyniadau Chwilio - Vilariño, Idea

Idea Vilariño

Bardd a beirniad llenyddol o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Idea Vilariño (18 Awst 192028 Ebrill 2009). Roedd yn un o lenorion ''La Generación del 45''.

Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái. Addysgodd lenyddiaeth yn ysgolion uwchradd Montevideo o 1952 nes i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym ym 1973. Wedi diwedd yr unbennaeth honno, daeth Vilariño yn athrawes llên Wrwgwái ym Mhrifysgol y Weriniaeth ym 1985.

Ymhlith ei chyfrolau o farddoniaeth mae ''La suplicante'' (1945), ''Cielo, cielo'' (1947), ''Paraíso per dido'' (1949), ''Nocturnos'' (1955), ''Poemas de amor'' (1957), ''Pobre mundo'' (1966), ''Treinta poemas'' (1967), ''Poesía'' (1970), ''Segunda antología'' (1980), a ''No'' (1980). Derbyniodd Wobr Gwaith Deallusol José Enrique Rodó oddi ar lywodraeth ddinesig Montevideo ym 1987, a Gwobr Lenyddol Konex yn 2004.

Ysgrifennodd lyfrau am farddoniaeth Julio Herrera y Reissig (1950) ac Antonio Machado (1951), ac astudiaeth o eiriau caneuon tango, ''Las letras de tango'' (1965). Cyhoeddwyd ysgrifau ac erthyglau beirniadol ganddi yn y cylchgronau ''Clinamen'', ''Asir'', ''Hiperión'', ''Marcha'', ''Puente'', ''Carte Segrete'', ''Texto Crítico'', ''La Opinión'', ''Revista del Sur'', a ''Brecha''. Bu hefyd yn cyfieithu gwaith William Shakespeare i'r Sbaeneg.

Bu farw yn yr ysbyty ym Montevideo yn 89 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Poemas de amor / gan Vilariño, Idea

    Cyhoeddwyd 2001
    Libro
  2. 2

    En lo más implacable de la noche / gan Vilariño, Idea.

    Cyhoeddwyd 2013.
    Libro
  3. 3

    Macbeth gan Shakespeare, William 1564-1616

    Cyhoeddwyd 2015
    Awduron Eraill: “...Vilariño, Idea...”
    Libro