Canlyniadau Chwilio - Vasconcelos, José

José Vasconcelos

Llenor, athronydd, gwleidydd, ac addysgwr o Fecsico oedd José Vasconcelos (28 Chwefror 188230 Mehefin 1959).

Ganwyd yn Oaxaca de Juárez, Oaxaca, yn ne Mecsico. Mynychodd yr Escuela Nacional Preparatoria yn Ninas Mecsico. Dechreuodd astudio'r gyfraith yn yr Escuela de Jurisprudencia yn 1905, ac yno Vasconcelos oedd un o sefydlwyr yr Ateneo de la Juventud, cymdeithas o ddeallusion ifainc, yn 1909. Bu'r grŵp honno yn arwain y mudiad deallusol yn erbyn positifiaeth llywodraeth Porfirio Díaz, a fu'n Arlywydd Mecsico yn y cyfnodau 1877–80 a 1884–1911.

Yn ystod Chwyldro Mecsico (1910–20), ymgyrchodd Vasconcelos dros achos Francisco I. Madero a'r cadfridog Pancho Villa erbyn lluoedd Díaz. Gwrthododd Vasconcelos swydd yn llywodraeth Madero (1911–13), ond fe ymunodd â'r frwydr yn erbyn yr Arlywydd Victoriano Huerta (1913–14) yn sgil llofruddiaeth Madero. Wedi buddugoliaeth y chwyldroadwyr, ymunodd Vasconcelos â llywodraeth Álvaro Obregón yn rheithor Prifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) o 1920 i 1921 ac yn weinidog addysg o 1921 i 1924. Cychwynnodd ar raglen i ddiwygio ysgolion cyhoeddus y wlad ac i hyfforddi athrawon yng nghefn gwlad. Cefnogodd mudiad y murlunwyr a chomisiynwyd sawl arlunydd o fri i baentio murluniau didactig mewn adeiladau cyhoeddus. Gorchmynnwyd argraffiadau rhad o glasuron llenyddol ar raddfa eang, lansiodd ymgyrch lythrennedd genedlaethol, a sefydlodd cyfundrefn o lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Mecsico. Yn ei amser rhydd, golygodd Vasoncelos gyfndoolion megis ''El maestro'' a ''La antorcha'' ar gyfer athrawon. Gwahoddwyd ffigurau diwylliannol o wledydd eraill America Ladin, gan gynnwys y bardd Tsileaidd Gabriela Mistral a'r ysgrifwr o Weriniaeth Dominica Pedro Henríquez Ureña, i Fecsico i gynorthwyo yn natblygiadau deallusol a chelfyddydol y wlad.

Anghytunodd Vasoncelos â dulliau gorthrymus y llywodraeth, ac ymddiswyddodd o'r cabinet yn 1924. Gadawodd y wlad am gyfnod. Dychwelodd i Fecsico yn 1928, ac ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth yn 1929. Collodd yr etholiad, a gadawodd y wlad unwaith eto. Yn y cyfnod hwn trodd yn fwyfwy at safbwyntiau'r adain dde. Dychwelodd yn 1940 i gymryd swydd Cyfarwyddwr y Llyfrgell Genedlaethol, a daliodd y swydd honno am weddill ei oes. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 77 oed.

Datblygodd Vasconcelos ffurf newydd ar athroniaeth Ladin-Americanaidd yn ei lyfrau ''La raza cósmica'' (1925) ac ''Indología'' (1926) sy'n ffafrio dealltwriaeth gyfanfydol yn hytrach na ''indigenismo''. Rhodd yr enw "monyddiaeth esthetaidd" ar y syniadaeth hon o undod cosmig y byd, a mynegir ei athroniaeth gyfan yn glir yn y gyfrol ''Todología'' (1952). Dadleuodd dros roi ei syniadau ar waith yn mywyd cymdeithasol Mecsico, drwy gyfuniad o holl ddiwylliannau'r wlad ar sail y bobloedd frodorol, i drosgynnu cyfyngiadau diwylliant y Gorllewin. Ymhlith ei weithiau eraill mae ''Bolivarismo y Monroismo'' (1934). Cyhoeddodd ei hunangofiant mewn pum cyfrol: ''Ulises Criollo'' (1935), ''La tormenta'' (1936), ''El desastre'' (1938), ''El proconsulado'' (1939), a ''La flama'' (1959). Yn ogystal â'i werth llenyddol, mae ei hunangofiant yn ffynhonnell bwysig am hanes cymdeithasol a gwleidyddol Mecsico yn hanner cyntaf yr 20g. Darparwyd gan Wikipedia
  1. 1

    Breve historia de México gan Vasconcelos, José

    Cyhoeddwyd 1952
    Libro
  2. 2

    O meu pé de laranja lima / gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd c1976.
  3. 3

    Rosinha, mi canoa : Novela en compás de remo gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd c1976
    Libro
  4. 4

    Vamos a calentar el sol : Novela gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd 1992
    Libro
  5. 5

    Rosinha, mi canoa : Novela en compás de remo gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd c1976
  6. 6

    Mi planta de naranja-lima / gan Vasconcelos, José Mauro de.

    Cyhoeddwyd 2009.
    Libro
  7. 7

    Lluvia de la noche gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd 1978
    Libro
  8. 8

    Marea baja gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd 1979
    Libro
  9. 9

    Barro blanco gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd 1979
    Libro
  10. 10

    Prometeo vencedor gan Vasconcelos, José 1882-1959

    Cyhoeddwyd s.f.
    Libro
  11. 11

    Arara vermelha gan Vasconcelos, José Mauro de

    Cyhoeddwyd 1979
    Libro
  12. 12

    La raza cósmica : misión de la raza iberoamericana ; Argentina y Brasil gan Vasconcelos, José 1882-1959

    Cyhoeddwyd 1948
    Libro
  13. 13

    Las confesiones de Fray Calabaza : novela gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-

    Cyhoeddwyd 1975
    Libro
  14. 14

    Vamos a calentar el sol : novela gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-1984

    Cyhoeddwyd 1979
    Libro
  15. 15

    Vamos a calentar el sol gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-1984

    Cyhoeddwyd 2016
    Libro
  16. 16

    Corazón de vidrio gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-1984

    Cyhoeddwyd ©2004
    Libro
  17. 17

    Mi planta de naranja-lima gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-1984

    Cyhoeddwyd ©2005
    Libro
  18. 18

    Rosinha, mi canoa novela en compás de remo gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-1984

    Cyhoeddwyd 1989
    Libro
  19. 19

    Rosinha, mi canoa : novela en compás de remo gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-1984

    Cyhoeddwyd 1975
    Libro
  20. 20

    Rosinha, mi canoa novela en compás de remo gan Vasconcelos, José Mauro de 1920-1984

    Cyhoeddwyd 1991
    Libro