Canlyniadau Chwilio - Thomas, Frances
Frances Thomas
| dateformat = dmy }}Awdures o Gymru yw Frances Thomas (ganed 21 Hydref 1943, Aberdâr), sy'n ysgrifennu llyfrau i blant yn yr iaith Saesneg.
Ganed Thomas yn Aberdâr yn ystod yr Ail Ryfel Byd i dad o dras Gymreig, David Elwyn, a mam o draws Seisnig a Gwyddelig, Agnes Connor. Dychwelodd y teulu i Lundain wedi i'r rhyfel ddod i ben a dyna lle magwyd Thomas. Astudiodd ym Mhrifysgol Llundain cyn gwneud cwrs dysgu. Mae'n gweithio gyda phobl ifanc dyslecsig.
Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, ''The Blindfold Track'' ym 1980 gan Macmillan ac enillodd Wobr Tir na n-Og ym 1981.
Enillodd ei llyfr cyntaf ar gyfer oedolion, sef y nofel ''Seeing Things'' a gyhoeddwyd gan Gollancz ym 1986, wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1987. Daeth hefyd yn agos at cipio Gwobr Nofel Gyntaf Whitbread ym 1986. Darparwyd gan Wikipedia