Canlyniadau Chwilio - Supervielle, Jules.

Jules Supervielle

Bardd, dramodydd, nofelydd, ac awdur straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Ffrangeg oedd Jules Supervielle (16 Ionawr 188417 Mai 1960).

Ganwyd ym Montevideo i rieni o Ffrainc: mam o dras Fasgaidd a thad o Ocsitania. Teithiodd y teulu i Oloron-Sainte-Marie, ac yno bu farw rhieni Jules cyn ei ben-blwydd cyntaf. Mabwysiadwyd gan ei ewythr a'i fodryb yn Wrwgwái ac yno buont yn byw nes yr oedd Jules yn 10 oed, pryd symudasant i Baris. Myfyriwr brwd ydoedd, gyda'r gallu i siarad Eidaleg, Saesneg, a Phortiwgaleg yn rhugl yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg, ac astudiodd lenyddiaeth, celf, y gyfraith, a gwyddor gwleidyddiaeth. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, ''Brumes du passé'' (1901), yn ystod ei arddegau. Cafodd ei alw i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac oherwydd yr oedd ei iechyd yn rhy wael i'w ddanfon i'r ffrynt cafodd waith yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, ym mha le'r oedd ei alluoedd ieithyddol o fudd.

Enillodd sylw yn sgil cyhoeddiad y gyfrol ''Poems de L'humour triste'' (1919). Daeth yn gyfeillgar ag André Gide a Valery Larboud, dechreuodd mynychu salon wythnosol Jacques Riviere, a chyhoeddodd ei waith yn y cylchgrawn ''Nouvelle Revue Francaise''. Cyfieithodd Supervielle waith Larboud ac eraill o'r Ffrangeg i'r Sbaeneg, a thrwy hynny fe gyflwynodd datblygiadau Ffrengig y 1920au i gylchoedd yr ''avant-garde'' yn Wrwgwái a'r Ariannin. Teithiodd i Wrwgwái yn aml yn ystod ei yrfa.

Mae ei ryddiaith a'i farddoniaeth yn hynod o wreiddiol ac yn cyfuno themâu diwylliannol a chymdeithasol Río de la Plata â dylanwadau'r ''avant-garde'' Ffrengig. Un o'i weithiau nodweddiadol ydy ''L'Homme de la pampa'' (1923), nofel gynhyrfus sy'n ymdrin â bywyd y ''pampas'' a'r byd Ewropeaidd mewn modd eironig. Thema gyffredin ganddo ydy hiraeth y dyn unig am gefn gwlad a'i fachgendod eidylaidd, a'i ddyhead am frawdoliaeth y ddynolryw. Ysgrifennodd gerddi teimladwy, weithiau digrif, megis "Gravitations" (1925), "Les Amis inconnus" (1934), a "La Fable du monde" (1938). Defnyddiodd dechnegau realaeth, gan wrthod y farddoniaeth swrealaidd oedd yn ffasiynol yn hanner cyntaf yr 20g, er iddo gynnwys ffantasi, alegori, a dihangdod yn fynych yn ei waith.

Ymhlith ei weithiau eraill mae'r nofelau ''Le Voleur d'enfants'' (1926) a ''Le Survivant'' (1928), y casgliadau o straeon byrion ''L'Enfant de la haute mer'' (1931) a ''Le Petit Bos'' (1942), y dramâu ''La Belle au bois'' (1932), ''Bolivar'' (1936), a ''Robinson'' (1949), a'r gyfrol o farddoniaeth ''Poèmes de la France malheureuse'' (1941).

Bu farw ym Mharis yn 76 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Bosque sin horas : poemas / gan Supervielle, Jules.

    Cyhoeddwyd 1932.
    Libro