Canlyniadau Chwilio - Storni, Alfonsina, 1892-1938.

Alfonsina Storni

Bardd, newyddiadurwraig a dramodydd yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Alfonsina Storni (29 Mai 189225 Hydref 1938). Mae ei barddoniaeth yn nodedig am onestrwydd y safbwynt benywaidd sy'n amlygu ffaeleddau'r drefn batriarchaidd, a fe'i gelwir yn "fardd ffeministaidd gyntaf America Ladin". Er iddi bortreadu a beirniadu'r rhyw wryw trwy gyfrwng eironi, nid oedd yn swil i fynegi ei chwantau rhamantaidd a rhywiol am ddynion yn ei cherddi erotig.

Ganwyd yn Sala Capriasca, Ticino, yn y Swistir. Ymfudodd ei theulu i'r Ariannin yn 1896, a chafodd ei magu yng nghefn gwlad. Ymunodd â chwmni o actorion yn ystod ei hieuenctid. Cychwynnodd ar ei gyrfa yn athrawes yn Rosario, Talaith Santa Fe, yn 19 oed. Cafodd blentyn anghyfreithlon yn 1912, a bu'n rhaid iddi adael ei swydd. Aeth i Buenos Aires yn 1913, ac yno bu'n cwrdd â'r llenor Horacio Quiroga.

Cyhoeddodd Storni ei llyfr cyntaf, ''La inquietud del rosal'', yn 1916, ac yn yr hwnnw clywir y llais angerddol a'r sentimentaliaeth sy'n nodweddiadol o'i cherddi cynnar. Denodd ragor o sylw gyda ''El dulce daño'' (1918) ac ''Irremediablemente'' (1919). Adlewyrchodd ddatblygiadau llenyddol y cyfnod, yn bennaf moderniaeth ond hefyd ôl-foderniaeth, a ddangosir yn y gyfrol ''Languidez'' (1920).

Wedi iddi gyhoeddi'r gyfrol ''Ocre'' yn 1925, trodd ei sylw at newyddiaduraeth yn bennaf. Ysgrifennodd hefyd ambell ddrama, gan gynnwys y gomedi ''El amo del mundo'' (1927), er na chafodd fawr o lwyddiant yn y theatr. Erbyn ei blynyddoedd olaf, datblygodd fynegiadaeth gymhleth yn ei cherddi. Ei dwy gyfrol olaf o farddoniaeth oedd ''El mundo de siete pozos'' (1934) a'r casgliad o wrth-sonedau ''Mascarilla y trébol'' (1938). Dylanwadwyd arni gan yr ''avant-garde'', sy'n amlwg yn ''Mascarilla y trébol''.

Enillodd Storni sylw'r byd llenyddol a'r cyhoedd bron o'r cychwyn, er yr oedd ambell un yn feirniadol ohoni. Wfftiodd Jorge Luis Borges ei "llais main ac aneglur", er enghraifft. Dioddefai o ganser y fron yn ei blynyddoedd olaf, a bu farw trwy hunanladdiad pan foddai ei hunan yn y môr ger Mar del Plata. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 16 canlyniadau o 16
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Antología poética gan Storni, Alfonsina 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1946
    Libro
  2. 2

    El dulce daño gan Storni, Alfonsina 1892-1938

    Cyhoeddwyd 1918
    Libro
  3. 3

    Antología poética gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1976
    Libro
  4. 4

    Antologia poética / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1943
    Libro
  5. 5

    Ocre gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1925
    Libro
  6. 6

    Mascarilla y trébol gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1957
    Libro
  7. 7

    Alfonsina. Poesías gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1995
    Libro
  8. 8

    Obras completas : I poesías gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1976
    Libro
  9. 9

    Ocre / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1925
    Libro
  10. 10

    Antologia poética / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Libro
  11. 11

    Antología / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1998.
    Libro
  12. 12

    Poesía Selecta / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1977.
    Libro
  13. 13

    Languidez / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1957.
    Libro
  14. 14

    Alfonsina Storni poesías : 50º aniversario / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1988.
    Libro
  15. 15

    Escritos. Imágenes de género / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 2014.
    Libro
  16. 16

    Alfonsina Storni / gan Storni, Alfonsina, 1892-1938.

    Cyhoeddwyd 1997.
    Libro