Canlyniadau Chwilio - Stein, Gertrude

Gertrude Stein

| dateformat = dmy}}

Nofelydd Americanaidd oedd Gertrude Stein (3 Chwefror 1874 - 27 Gorffennaf 1946) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, casglwr celf, perchennog salon, hunangofiannydd a libretydd. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''Three Lives, Tender buttons: objects, food, rooms, The Making of Americans, Four Saints in Three Acts, The Autobiography of Alice B. Toklas, Everybody's Autobiography'' a ''Doctor Faustus Lights the Lights''.

Fe'i ganed yn Allegheny West, Pittsburgh a bu farw yn Neuilly-sur-Seine, Ffrainc o ganser y stumog; fe'i claddwyd ym Mynwent Père Lachaise, Paris. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Radcliffe, Ysgol Feddygaeth Johns Hopkins, Prifysgol Harvard a Phrifysgol Johns Hopkins.

Wedi'i geni yng nghymdogaeth Allegheny West yn Pittsburgh fe'i magwyd yn Oakland, Califfornia, cyn symud i Baris ym 1903. Yno, yn Ffrainc y treuliodd weddill ei bywyd. Pan oedd Stein yn 14 oed, bu farw ei mam a thair blynedd yn ddiweddarach, bu farw ei thad hefyd. Yna cymerodd brawd hynaf Stein, Michael Stein, drosodd y busnes teuluol ac ym 1892 trefnodd i Gertrude a chwaer arall, Bertha, fyw gyda theulu eu mam yn Baltimore.

Cynhaliodd salon ym Mharis, lle byddai ffigyrau blaenllaw moderniaeth mewn llenyddiaeth a chelf, pobl megis Pablo Picasso, Ernest Hemingway, F. Scott Fitzgerald, Sinclair Lewis, Ezra Pound, Sherwood Anderson a Henri Matisse, yn cwrdd. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Picasso / gan Stein, Gertrude

    Cyhoeddwyd 1954
    Libro
  2. 2

    Picasso / gan Stein, Gertrude

    Cyhoeddwyd 1954
    Libro