Canlyniadau Chwilio - Sarmiento, Domingo Faustino 1811-1874

Domingo Faustino Sarmiento

Gwleidydd, llenor, ac addysgwr o'r Ariannin oedd Domingo Faustino Sarmiento (15 Chwefror 181111 Medi 1888) a wasanaethodd yn Arlywydd yr Ariannin o 1868 i 1874. Mae'n nodedig yn llên yr Ariannin, ac America Ladin yn gyffredinol, am ei ysgrif hir ''Facundo'' (1845).

Ganwyd yn San Juan yng ngorllewin yr Ariannin. Trwy hunanaddysg daeth yn ddyn ifanc deallus a gwleidyddol. Treuliodd rhyw deng mlynedd yn alltud yn Tsile, ac yno yr oedd yn weithgar yn addysg gyhoeddus y wlad. Daeth yn adnabyddus hefyd fel newyddiadurwr ac ysgrifwr gwleidyddol, a theithiodd i Ewrop a'r Unol Daleithiau. Dychwelodd i'r Ariannin i gynorthwyo yn y gwrthryfel yn erbyn yr unben Juan Manuel de Rosas. Daeth yn wleidydd amlwg yn ei famwlad, ac etholwyd yn arlywydd yn 1868. Aeth ati i ddiwygio'r gyfundrefn addysg yn ystod ei arlywyddiaeth. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    El censor diario de la mañana

    Cyhoeddwyd 1885-1892
    Awduron Eraill: “...Sarmiento, Domingo Faustino 1811-1874...”