Canlyniadau Chwilio - San Martín, José de, 1778-1850.

José de San Martín

Cadfridog o'r Ariannin oedd José Francisco de San Martín y Matorras (25 Chwefror 177817 Awst 1850) a oedd yn brif arweinydd rhyfeloedd annibyniaeth yr Ariannin, Tsile, a Pheriw oddi ar Ymerodraeth Sbaen.

Ganwyd yn Yapeyú, Rhaglawiaeth Río de la Plata, a leolir heddiw yn Nhalaith Corrientes, yr Ariannin. Symudodd gyda'i deulu i Sbaen yn 1783, ac ymunodd â'r fyddin yn 11 oed. Brwydrodd yn erbyn lluoedd Napoléon yn Rhyfel Iberia o 1808 i 1811.

Aeth i Buenos Aires yn 1812 ac ymunodd â Thaleithiau Unedig Río de la Plata yn y chwyldro yn erbyn Ymerodraeth Sbaen. Enillodd fuddugoliaeth yn erbyn y Sbaenwyr ym Mrwydr San Lorenzo (1813), ac arweiniodd Fyddin y Gogledd yn 1814. Cynlluniodd i drechu lluoedd Sbaen drwy sefydlu byddin i groesi'r Andes ac ymosod arnynt ar hyd arfordir y Cefnfor Tawel. Enillodd Tsile ei hannibyniaeth yn sgil brwydrau Chacabuco a Maipú (1818).

Arweiniodd San Martín lynges i ymosod ar luoedd Sbaen yn Rhaglawiaeth Periw. Yn sgil buddugoliaeth yn Lima yn 1821, penodwyd San Martín yn Amddiffynnydd Periw. Bu'n cwrdd â Simón Bolívar ar 22 Gorffennaf 1822 yn Guayaquil, Ecwador, a chymerodd Bolívar yr awenau yn chwyldro Periw. Ymddeol o'r fyddin a wnaeth San Martín, ac ymfudodd i Ffrainc yn 1824. Bu farw yn Boulogne-sur-Mer yn 72 oed.

San Martín yw un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin a Pheriw, ac un o ''Libertadores'' De America. Enwir yr anrhydedd uchaf a wobrwyir gan lywodraeth yr Ariannin, Urdd y Cadfridog San Martín, ar ei ôl. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Máximas para mi hija gan San Martín, José de, 1778-1850.

    Cyhoeddwyd 1943
    Libro
  2. 2

    Mis profetas locos / gan SAN MARTIN, JOSE DE, 1778-1850.

    Cyhoeddwyd 1918
    Libro