Canlyniadau Chwilio - Saer, Juan José, 1937-2005.

Juan José Saer

Nofelydd, llenor straeon byrion, bardd, ac ysgrifwr yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Juan José Saer (28 Mehefin 193711 Mehefin 2005). Bu'n byw yn Ffrainc am y rhan fwyaf o'i yrfa.

Ganwyd yn Serodino yn Nhalaith Santa Fe, yr Ariannin, ar 28 Mehefin 1937, yn fab i fewnfudwyr o Syria. Darllenwr brwd oedd y bachgen Juan, a bu'n cyfieithu barddoniaeth Keats o'r Saesneg i'r Sbaeneg yn 12 oed. Dylanwadwyd arno gan feirdd lleol megis Juan L. Ortiz a Hugo Gola. Astudiodd y gyfraith ac athroniaeth ym Mhrifysgol Genedlaethol y ''Litoral'' (UNL) yn ninas Santa Fe. Yn 1962 newidiodd ei ddiddordebau academaidd, a daeth yn athro sinematograffeg yn UNL. Symudodd i Ffrainc ar ysgoloriaeth yn 1968, a darlithiodd ar bwnc llenyddiaeth ym Mhrifysgol Rennes.

Nid oedd Saer yn hoff o realaeth hudol a'r arddulliau a themâu dieithr tebyg oedd yn boblogaidd yn llên America Ladin, gan gredu bod tueddiadau o'r fath yn "cyfyngu llenorion yng ngeto'r ''latinoamericanidad''", a bod cenedlaetholdeb a gwladychiaeth yn rhwystro meddylfryd y llenor fel ei gilydd. Gwobrwywyd y Premio Nadal, gwobr lenyddol yn Sbaen, iddo yn 1987 am ei nofel ''La ocasión'', ac ef oedd y llenor cyntaf o America Ladin i'w hennill. Cafodd Saer ei alw'n "un o'r llenorion gorau mewn unrhyw iaith" gan ei gydwladwr Ricardo Piglia.

Cafodd berthynas am 36 mlynedd gyda'r Ffrances Laurence Gueguen, a chawsant un mab, Jerónimo (1970–2015), ac un ferch, Clara (g. 1980). Roedd Jerónimo yn gerddor hip hop, a bu farw o ganser yn 45 oed. Newyddiadurwraig ydy Clara. Bu farw Juan José Saer ar 11 Mehefin 2005 ym Mharis yn 67 oed, wedi iddo ddioddef o ganser yr ysgyfaint. Cyhoeddwyd ei nofel olaf, ''La grande'', ychydig fisoedd wedi ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 13 canlyniadau o 13
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Cuentos completos 1957-2000 gan Saer, Juan José 1937-2005

    Cyhoeddwyd 2018
    Libro
  2. 2

    Cuentos completos (1957-2000) gan Saer, Juan José 1937-2005

    Cyhoeddwyd 2018
    Libro
  3. 3

    Trabajos gan Saer, Juan José 1937-2005

    Cyhoeddwyd 2006
    Libro
  4. 4

    El entenado gan Saer, Juan José 1937-2005

    Cyhoeddwyd ©2000
    Libro
  5. 5

    La narración-objeto gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 1999
    Libro
  6. 6

    El concepto de ficción / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 1998
    Libro
  7. 7

    Las nubes / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 2008
    Libro
  8. 8

    Las nubes / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 2008
    Libro
  9. 9

    En la zona / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 2003.
    Libro
  10. 10

    La mayor / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 2006.
    Libro
  11. 11

    Lugar / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 2000.
    Libro
  12. 12

    Unidad de lugar / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 2000.
    Libro
  13. 13

    Papeles de trabajo 2 : Borradores inéditos / gan Saer, Juan José, 1937-2005.

    Cyhoeddwyd 2013.
    Libro