Canlyniadau Chwilio - Rolland, Romain

Romain Rolland

Nofelydd, dramodydd, ac ysgrifwr o Ffrainc oedd Romain Rolland (29 Ionawr 186630 Rhagfyr 1944) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1915.

Ganed yn Clamecy, Nièvre, yng nghyfnod Ail Ymerodraeth Ffrainc. Aeth i Baris yn 14 oed a chafodd ei dderbyn i'r École Normale Supérieure. Mewn awyrgylch o anhrefn ysbrydol, collodd ei ffydd Gristnogol a throdd at ysgrifeniadau Benedict de Spinoza a Lev Tolstoy. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth, ac aeth ati i astudio hanes yn y brifysgol ym 1889 cyn derbyn ei ddoethuriaeth mewn celf ym 1895. Aeth i'r École Française yn Rhufain am ddwy flynedd. Ysgrifennodd ei ddramâu cynharaf yn y 1890au a'r 1900au, mewn dau gylch: ''Les Tragédies de la foi'' (1913), sydd yn cynnwys ''Aërt'' (1898), a ''Le Théâtre de la révolution'' (1904), sydd yn cynnwys ''Les Loups'' (1898; am achos Dreyfus) a ''Danton'' (1900). Ysgrifennodd Rolland hefyd ar bynciau athrylith ac arwriaeth, ac archwiliodd fywydau rhai o wŷr mawr hanes yn y cofiannau ''Vie de Beethoven'' (1903), ''Vie de Michel-Ange'' (1905), a ''Vie de Tolstoi'' (1911).

Cyfrannodd Rolland at y cylchgrawn llenyddol ''Cahiers de la Quinzaine'', a sefydlwyd gan y bardd a golygydd Charles Péguy, ac yn yr hwnnw cyhoeddwyd ei gampwaith, y nofel hir, neu ''roman fleuve'' ("cylch nofelaidd"), ''Jean-Christophe'', mewn deg cyfrol (1904–12). Gweithiodd am gyfnod fel athro celf a cherddoleg cyn penderfynu ym 1912 i ganolbwyntio ar lenydda yn unig, ac ym 1914 symudodd i'r Swistir. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ysgrifennodd bamffled o'r enw ''Au-dessus de la mêlée'' (1915) i annog heddwch rhwng Ffrainc a'r Almaen. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ffantasi bwrlésg ''Colas Breugnon'' (1919) a'i ail ''roman fleuve'', ''L’Âme-enchantée'' (saith cyfrol; 1922–33).

Ymddiddorai Rolland mewn athroniaeth a chyfriniaeth y Dwyrain, yn enwedig India, ac ysgrifennodd lyfr am Gandhi (1924). Bu'n gohebu â nifer o feddylwyr amlycaf ei oes, gan gynnwys Albert Schweitzer, Albert Einstein, Bertrand Russell, a Rabindranath Tagore, a chesglir ei lythyrau wedi ei farwolaeth yn y gyfrol ''Cahiers Romain Rolland'' (1948). Dychwelodd Rolland i Ffrainc ym 1937. Bu farw yn Vézelay, Yonne, yn 78 oed. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei ysgrifeniadau o'r Rhyfel Byd Cyntaf, ''Journal des années de guerre, 1914–1919'' (1952), a'i hunangofiant ''Mémoires'' (1956). Darparwyd gan Wikipedia
  1. 1

    El teatro del pueblo : ensayo de estética de un teatro nuevo / gan Rolland, Romain.

    Cyhoeddwyd s.f.
    Libro
  2. 2

    Teatro completo : III Teatro de la revolución II. Danton. Robespierre. Las Leonidas gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1960
    Libro
  3. 3

    Teatro completo III : teatro de la revolución II. Danton. Robespierre. Las Leónidas gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1960
    Libro
  4. 4
  5. 5
  6. 6

    Teatro completo : I El teatro del pueblo. Pascua Florida gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1959
    Libro
  7. 7

    Teatro completo I : El teatro del pueblo. Pascua Florida gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1959
    Libro
  8. 8

    Juan Cristóbal : I gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1952
    Libro
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

    Compañeros de ruta gan Rolland, Romain.

    Cyhoeddwyd 1957
    Libro
  16. 16

    La vida de Ramakrishna : ensayo acerca de la mística y la acción de la India viviente gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1931.
    Libro
  17. 17

    Beethoven : las grandes épocas creadoras gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1958
    Libro
  18. 18

    Beethoven : las grandes épocas creadoras gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1958
    Libro
  19. 19

    Beethoven : las grandes épocas creadoras. Goethe y Beethoven gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1954
    Libro
  20. 20

    Tolstoi gan Rolland, Romain

    Cyhoeddwyd 1953
    Libro