Canlyniadau Chwilio - Rodríguez Monegal, Emir 1921-
Emir Rodríguez Monegal
Beirniad llenyddol, golygydd, ac academydd o Wrwgwái oedd Emir Rodríguez Monegal (28 Gorffennaf 1921 – 14 Tachwedd 1985). Roedd yn un o hoelion wyth ''La Generación del 45'', yn feirniad ac ysgrifwr toreithiog, yn gyd-sefydlydd y cylchgrawn ''Número'', ac yn hyrwyddwr hynod o ddylanwadol yn llên America Ladin yng nghanol yr 20g.Ganwyd ym Melo, prifddinas talaith Cerro Largo yng ngogledd-ddwyrain Wrwgwái. Yn 1943 dechreuodd ysgrifennu i'r cylchgrawn wythnosol ''Marcha'', ac o 1945 i 1957 efe oedd golygydd yr adran lenyddol. Yn 1949 sefydlwyd y cylchgrawn llenyddol ''Número'' gan Rodríguez Monegal, Idea Vilariño, a Manuel Claps, a pharodd y cyhoeddiad hwnnw tan 1955. Ailgychwynnwyd y fenter am ail gyfres yn 1963, ac unwaith eto Rodríguez Monegal oedd un o brif gyfranwyr y cylchgrawn. Bu ffrae o ganlyniad i'w ddatganiad ei fod yn gwrthwynebu Chwyldro Ciwba, ac ymddiswyddodd nifer o aelodau'r bwrdd golygyddol. Daeth ail gyfres ''Número'' i ben yn 1964.
Aeth i Baris yn 1966 ac yno sefydlodd y cylchgrawn Sbaeneg ''Mundo Nuevo''. Yn y cyhoeddiad hwnnw hyrwyddwyd nofelwyr ''el boom latinoamericano'', yn eu plith Gabriel García Márquez, Carlos Fuentes, Mario Vargas Llosa, Julio Cortázar, a José Donoso, a chyhoeddwyd gweithiau cynnar gan lenorion megis Guillermo Cabrera Infante, Severo Sarduy, a Manuel Puig. Bu sgandal ynghylch nawdd ariannol ''Mundo Nuevo'', a oedd yn tarddu o'r CIA yn ôl y sôn, ac ymddiswyddodd Rodríguez Monegal yr olygyddiaeth yn 1968.
Rodríguez Monegal oedd un o'r beirniaid cyntaf i gydnabod pwysigrwydd Jorge Luis Borges. Ysgrifennodd hefyd gyfrolau o feirniadaeth a bywgraffiadau am Pablo Neruda, Andrés Bello, Horacio Quiroga, a José Enrique Rodó. Penodwyd yn athro llên America Ladin ym Mhrifysgol Yale yn 1969, ac ymsefydlodd felly yn New Haven, Connecticut, yn Unol Daleithiau America. Roedd hefyd yn athro gwadd i El Colegio de Mexico, Prifysgol Harvard, Prifysgol De Califfornia, Prifysgol Pittsburgh, a'r Universidade Federal yn Rio de Janeiro, ac yn ysgolhaig gwadd i Brifysgol Lerpwl. Cyhoeddodd ambell lyfr yn Saesneg am lên America Ladin. Bu farw yn yr ysbyty New Haven yn 64 oed. Darparwyd gan Wikipedia