Canlyniadau Chwilio - Rice, Anne 1941-
Anne Rice
| dateformat = dmy}}Awdur Americanaidd oedd Anne Rice (4 Hydref 1941 – 11 Rhagfyr 2021) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd a sgriptiwr ffuglen gothig, Cristnogol ac erotig. Yn 2019 ei gwaith mwyaf poblogaidd oedd ''The Vampire Chronicles'' a addaswyd yn nifer o ffilmiau: ''Interview with the Vampire'' (1994) a ''Queen of the Damned'' (2002).
Ganed '''Howard Allen Frances O'Brien''' yn New Orleans ar 4 Hydref 1941. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol San Francisco, Prifysgol y Merched, Texas a Phrifysgol Gogledd Tecsas. Priododd yr arlunydd Stan Rice yn 1961 a bu'r ddau briod am 41 o flynyddoedd tan iddo farw o gancr yn 2002 yn 60 oed.
Mae'r awdur Christopher Rice yn blentyn iddi; collodd blentyn arall, Michelle, yn 5 oed o liwcimia.
Treuliodd Rice lawer o'i bywyd cynnar yn New Orleans cyn symud i Texas, ac yn ddiweddarach i San Francisco. Cafodd ei magu mewn teulu Catholig eitha llym, ond daeth yn agnostig pan oedd yn oedolyn ifanc. Dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu proffesiynol gyda chyhoeddi ''Interview with the Vampire'' ym 1976, wrth fyw yng Nghaliffornia, a dechreuodd ysgrifennu dilyniannau i'r nofel yn yr 1980au. Yng nghanol y 2000au, dychwelodd at Babyddiaeth, cyhoeddodd Rice y nofelau ''Christ the Lord: Out of Egypt'' and ''Christ the Lord: The Road to Cana'', adroddiadau ffuglennol o rai digwyddiadau ym mywyd Iesu Grist. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach fe ymbellhaodd oddi wrth Gristnogaeth confensiynol, gan nodi anghytuno â safbwyntiau'r Eglwys Gatholig ar faterion cymdeithasol ond gan addo bod ffydd yn Nuw yn parhau i fod yn "ganologig i'w bywyd." Fodd bynnag, mae hi bellach yn ystyried ei hun yn ddyneiddiwr seciwlar.
Roedd cyfanswm gwerthiant ei llyfrau, erbyn 2019, dros 10 miliwn, sy'n rhoi Anne Rice yn agos iawn i frig y tabl awduron Americanaidd benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed. Darparwyd gan Wikipedia