Canlyniadau Chwilio - Redmayne, Eddie 1982-
Eddie Redmayne
Mae Edward John David Redmayne, OBE (ganed 6 Ionawr 1982) yn actor o Loegr. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn y theatr ac ar y teledu yn y 2000au cynnar cyn iddo wneud ei ddebut yn y ffilm, ''Like Minds'', yn 2006. Ers hynny, y mae wedi ymddangos mewn ffilmiau megis ''The Good Shepherd'' (2006), ''Savage Grace'' (2007), ''Elizabeth: The Golden Age'' (2007), ''My Week with Marilyn'' (2011), ''Les Misérables'' (2012), ''The Theory of Everything'' (2014), ''Jupiter Ascending'' (2015), a ''The Danish Girl'' (2015).Canmolwyd Redmayne ar gyfer ei berfformiad fel Stephen Hawking yn ''The Theory of Everything'', yn ennill y wobr ar gyfer yr Actor Gorau yng Ngwobrau'r Academi, Gwobrau BAFTA, Gwobrau Golden Globe, a Gwobrau Cymdeithas yr Actorion Sgrin. Mae wedi parhau gyda pherfformio yn y theatr, yn fwyaf adnabyddus ar gyfer ei rôl yn y ddrama ''Red'' (2010), yn Broadway. Enillodd y Wobr Tony ar gyfer y Perfformiad Gorau gan Brif Actor mewn Drama ar gyfer ei waith. Darparwyd gan Wikipedia