Canlyniadau Chwilio - Prudhomme, Sully 1839-1907

Sully Prudhomme

Bardd o Ffrainc yn yr iaith Ffrangeg oedd Sully Prudhomme (René-François-Armand Prudhomme; 16 Mawrth 18397 Medi 1907) sy'n nodedig fel un o'r Parnasiaid. Derbyniodd y Wobr Lenyddol Nobel gyntaf ac hynny yn 1901 "i gydnabod ei gyfansoddiadau mydryddol, sy'n amlygu delfrydiaeth aruchel, perffeithrwydd crefftus a chyfuniad eithriadol o briodweddau'r galon a'r meddwl".

Ganwyd ym Mharis ac astudiodd wyddoniaeth yn yr ysgol. Bu'n rhaid iddo rhoi'r gorau i yrfa wyddonol oherwydd afiechyd ei lygaid. Gweithiodd yn glerc mewn swyddfa ffatri cyn iddo gychwyn ar addysg yn y gyfraith yn 1860. Mae ei gasgliadau cynnar – ''Stances et poemes'' (1865), ''Les Épreuves'' (1866), a ''Les Solitudes'' (1869) – yn cynnwys cerddi rhwydd, gordeimladwy sy'n mynegi ei bruddglwyf wedi carwriaeth drist.

Yn y 1870au trodd Prudhomme ei gefn ar delynegiaeth sentimental a mabwysiadodd dulliau'r Parnasiaid, gyda phwyslais ar ffurf safonol, ceinder iaith, a chysyniadau athronyddol yn ei farddoniaeth, er enghraifft yn ei gyfrol ''La Justice'' (1878). Cesglir rhai o'i farddoniaeth Barnasaidd nodweddiadol yn ''Le Bonheur'' (1888), gwaith sy'n ymwneud â'r chwilfa Ffawstaidd am serch a gwybodaeth. Fe'i etholwyd yn aelod o'r Académie française yn 1881.

Gallai ei farddoniaeth ddiweddarach fod yn dywyll ac yn naïf yn ei hymdriniaeth â themâu athroniaeth ar fydr. Dioddefodd Prudhomme o afiechyd ar ddiwedd ei oes, a bu'n byw ar ben ei hun yn Châtenay-Malabry, Paris. Bu farw yno yn 68 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Poemas y pensamientos gan Prudhomme, Sully 1839-1907

    Cyhoeddwyd 1984
    Libro