Canlyniadau Chwilio - Portis, Charles, 1933-
Charles Portis
Llenor o'r Unol Daleithiau oedd Charles McColl Portis (28 Rhagfyr 1933 – 17 Chwefror 2020) sydd yn nodedig am ei nofel ''True Grit''.Ganed yn El Dorado, Arkansas, yn fab i Samuel Palmer Portis a'i wraig Alice, Waddell gynt. Fe'i magwyd mewn sawl tref yn ne-ddwyrain Arkansas, a mynychodd yr uwchysgol yn nhref Hamburg. Gweithiodd yn fecanydd ceir cyn iddo ymuno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau yn 1952. Gwasanaethodd yn Rhyfel Corea, a chyrhaeddodd reng rhingyll erbyn iddo ddychwelyd i'r Unol Daleithiau. Astudiodd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Arkansas, Fayetteville, ac ysgrifennodd i'r papur myfyrwyr, ''The Arkansas Traveler'', a'r papur newydd lleol, ''The Northwest Arkansas Times''. Derbyniodd ei radd yn 1958, a gweithiodd yn ohebydd i ''The Memphis Commercial Appeal'' ac yn ohebydd a cholofnydd i ''The Arkansas Gazette''. Ymunodd â ''The New York Herald Tribune'' in 1960, a bu'n ysgrifennu i'r papur hwnnw yn ne'r Unol Daleithiau cyn iddo gael ei benodi'n pennaeth y swyddfa dramor yn Llundain.
Yn 1964, penderfynodd Portis ysgrifennu ffuglen fel awdur llawn-amser. Cyhoeddodd bum nofel yn ystod ei yrfa: ''Norwood'' (1966), ''True Grit'' (1968), ''The Dog of the South'' (1979), ''Masters of Atlantis'' (1985), a ''Gringos'' (1991). Bu farw mewn hosbis yn Little Rock, Arkansas, yn 86 oed. Darparwyd gan Wikipedia