Canlyniadau Chwilio - Politkovskaya, Anna 1958-2006
Anna Politkovskaya
Newyddiadurwraig, awdures ac ymgyrchydd hawliau dynol o Rwsia oedd Anna Stepanovna Politkovskaya (Rwsieg ''Анна Степановна Политковская'') (30 Awst 1958 – 7 Hydref 2006). Roedd yn adnabyddadwy am ei gwrthwynebiad i'r gwerthdaro Chechen ac Arlywydd Rwsia r y pryd, Putin.Fe ddaeth Politkovskaya yn enwog wrth adrodd y newyddion o Chechnya. Arestiwyd hi a dioddefodd dienyddiad ffug yn nwylo'r fyddin Rwsiaidd, a cafodd ei gwenwyno ar ei ffordd i drafodaethau yn ystod argyfwng gwysti ysgol Beslan, ond fe oroesodd a parhaodd ei adroddiaeth. Ysgrifennodd nifer o lyfrau am y rhyfeloedd Chechen, yn ogystal â ''Putin's Russia'', a derbyniodd nifer o wobrau anrhydeddus rhyngwladol am ei gwaith.
Saethwyd hi'n farw mewn lifft yn adeilad ei fflat ar 7 Hydref 2006. Darparwyd gan Wikipedia