Canlyniadau Chwilio - Piglia, Ricardo 1942-2017
Ricardo Piglia
Awdur straeon byrion a nofelau yn yr iaith Sbaeneg, beirniad llenyddol, ac academydd o'r Ariannin oedd Ricardo Piglia (24 Tachwedd 1941 – 6 Ionawr 2017) sy'n nodedig am gyflwyno ffuglen ''hard-boiled'' i lên yr Ariannin.Astudiodd ym Mhrifysgol Genedlaethol La Plata yn 1961–62. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, ''La invasión'', yn 1967. Roedd yn hoff iawn o ffuglen dditectif boblogaidd, er iddo ddefnyddio themâu deallusol a chyfeiriadau cymhleth yn ei straeon ei hun. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r casgliadau ''Nombre falso'' (1975), ''Prisión perpetua'' (1988), a ''Cuentos morales'' (1995), a'r nofelau ''Respiración artificial'' (1980), ''La ciudad ausente'' (1992), a ''Blanco nocturno'' (2010).
Ysgrifennodd hefyd am hanes llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd, gan gynnwys gweithiau am Jorge Luis Borges, Roberto Arlt, Julio Cortázar, a Manuel Puig. Hyrwyddodd ''Serie Negra'', cyfres o gyfieithiadau Sbaeneg o straeon ''hard-boiled'' Americanaidd. Addysgodd mewn sawl prifysgol, gan gynnwys Harvard a Princeton yn yr Unol Daleithiau. Darparwyd gan Wikipedia