Canlyniadau Chwilio - Pereda, José María de 1933-1906

José María de Pereda

Llenor Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd José María de Pereda (6 Chwefror 18331 Mawrth 1906) sydd yn nodedig am ei straeon byrion a nofelau realaidd a leolir ym mynyddoedd Cantabria sydd yn nodweddiadol o fudiad ''costumbrismo''.

Ganed yn Nyffryn Besaya, Talaith Santander, yn rhanbarth hanesyddol Cantabria, i deulu o Gatholigion selog. Darparwyd incwm iddo gan ei frawd hŷn, a throdd José ei holl sylw at lenydda felly. Ei ymdrech gyntaf oedd ''Escenas montañesas'' (1864), casgliad o frasluniau realaidd o bysgotwyr Santander a gwerinwyr mynyddoedd Cantabria.

Ymhlith ei nofelau dychanol a gwleidyddol mae ''El buey suelto'' (1878), ''Don Gonzalo González de la Gonzalera'' (1879), a ''De tal palo tal astilla'' (1880). Campwaith Pereda ydy ''Sotileza'' (1884), un o nofelau Sbaeneg gwychaf y 19g. Dyma stori epig am fywydau pysgotwyr Santander, esiampl ddiffuant o nofel foes ac arfer sydd hefyd yn cynnwys portreadau enigmataidd o'i chymeriadau. Bu farw yn Santander yn 73 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Pedro Sánchez gan Pereda, José María de 1933-1906

    Cyhoeddwyd 1958
    Libro
  2. 2

    Pedro Sánchez gan Pereda, José María de 1933-1906

    Cyhoeddwyd 1958
    Libro