Canlyniadau Chwilio - Miller, Jonathan, 1934-

Jonathan Miller

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd theatr ac opera, actor, awdur, a meddyg o Loegr oedd Syr Jonathan Wolfe Miller (21 Gorffennaf 193427 Tachwedd 2019).

Ganed yn St John's Wood, Dinas Westminster, yng nghanol Llundain, yn fab i seiciatrydd a nofelydd. Derbyniodd ei radd o Goleg Sant Ioan, Caergrawnt, ym 1956, a derbyniodd ei radd feddygol o Ysgol Feddygaeth Coleg y Brifysgol, Prifysgol Llundain, ym 1959.

Ymddangosodd Miller ar lwyfan yn gyntaf yng Ngŵyl Caeredin ym 1961, yn un o actorion ac awduron y sioe ddychan ''Beyond the Fringe''. Dechreuodd ysgrifennu sgriptiau teledu ym 1963. Denodd sylw o ganlyniad i'w gynyrchiadau herfeiddiol o glasuron Shakespeare a Sheridan. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyswllt Theatr Genedlaethol Lloegr ym 1973, ond ni chafodd gyfleoedd i dorri tir newydd, felly penderfynodd ymddeol ym 1975. Bu'n weithgar ym myd opera ac ar y teledu yn ogystal â'r theatr.

Yn y 1980au gweithiodd am gyfnod yn gymrawd ymchwil ar bwnc niwroseicoleg ym Mhrifysgol Sussex. Gweithiodd Miller yn gyfarwyddwr artistig yn theatr yr Old Vic yn Llundain o 1988 i 1990. Ysgrifennodd a chyflwynodd sawl gyfres deledu ffeithiol, gan gynnwys ''The Body in Question'' (1978), ''Madness'' (1991), ac ''Atheism: A Rough History of Disbelief'' (2004). Cafodd ei urddo'n farchog yn 2002. Bu farw yn Llundain yn 85 oed, wedi iddo ddioddef clefyd Alzheimer. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Darwin para principiantes gan Miller, Jonathan, 1934-

    Cyhoeddwyd 1999
    Libro