Canlyniadau Chwilio - Milei, Javier 1970-

Javier Milei

Gwleidydd ac economegydd o'r Ariannin yw Javier Gerardo Milei (ganed 22 Hydref 1970) a wasanaetha yn Arlywydd yr Ariannin ers 10 Rhagfyr 2023. Mae'n arddel polisïau economaidd rhyddewyllysiol.

Ganed ef yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, a chafodd ei gamdrin yn llafar ac yn gorfforol gan ei rieni yn ystod ei blentyndod. Dioddefai economi'r Ariannin o orchwyddiant yn y 1980au, a phenderfynodd Milei yn ei arddegau i astudio'r pwnc er mwyn deall achosion y drafferth. Derbyniodd ei radd baglor mewn economeg o Brifysgol Belgrano a graddau meistr mewn economeg o'r Instituto de Desarrollo Económico y Social (IDES) a Phrifysgol Torcuato di Tella. Bu'n gysylltiedig â sawl melin drafod a sefydliad academaidd yn yr Ariannin. Treuliodd 21 mlynedd o'i yrfa yn athro ym meysydd macro-economeg, economeg twf, micro-economeg, a mathemateg i economegwyr. Mae wedi cyhoeddi mwy na 50 o erthyglau academaidd. Datblygodd syniadaeth ryddewyllysiol, gan ymlynu ag ysgol feddwl yr "Awstriaid" ac ymyrraeth y llywodraeth yn yr economi. Disgrifia Milei ei hun yn anarcho-gyfalafwr, yn anarchydd y farchnad, ac yn rhyddewyllysiwr rhyddfrydol.

Daeth Milei i'r amlwg o 2016 ymlaen drwy fynegi ei farnau economaidd a gwleidyddol ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol, a daeth yn ffigur hynod o ddadleuol. Câi ei ystyried yn sylwebydd anarferol, gyda steil ecsentrig i'w wallt a thymer ffyrnig, yn brygowthan a rhegi. Bu'n ymosod yn chwyrn ar y llywodraeth a gwleidyddion eraill, gan gyhuddo'r sefydliad gwleidyddol—neu ''la casta'', fel y geilw efe—o lygredigaeth. Denai gefnogaeth oddi ar nifer o Archentwyr, yn enwedig dynion ifanc, sydd wedi'u siomi gan sefyllfaoedd gwleidyddol ac economaidd eu gwlad. Ymaelododd â'r glymblaid Avanza Libertad yn 2020, a fe'i etholwyd i Siambr y Dirprwyon yn 2021. Aeth ati i gyd-sefydlu clymblaid newydd, La Libertad Avanza, â Victoria Villarruel, ac ymgyrchodd y ddau ohonynt ar gyfer yr arlywyddiaeth a'r is-arlywyddiaeth yn etholiad 2023.

Addawodd Milei raglen o ddiwygiadau radicalaidd i bolisïau economaidd, ariannol, a chyllidol yr Ariannin, gan gynnwys gostwng gwariant cyhoeddus 15%, diddymu'r banc canolog, a defnyddio doler yr Unol Daleithiau yn lle'r peso Archentaidd. Er iddo gymryd yr agwedd ryddewyllysiol ar faterion cymdeithasol megis rhyddid yr unigolyn i gymryd cyffuriau, arddelai Milei safbwyntiau ceidwadol ar ambell bwnc, gan gynnwys gwrthwynebu erthyliad ac addysg ryw. Lleisiodd hefyd sawl datganiad dadleuol, er enghraifft cwestiynu'r nifer a fu farw yng nghyfnod y jwnta filwrol, a gwadu cyfrifoldeb y ddynolryw am newid hinsawdd. Mae nifer o sylwebwyr wedi disgrifio Milei yn radicalwr ac yn boblydd, a rhai wedi ei ddisgrifio yn rhan o'r adain dde eithafol, tra bod eraill wedi galw ei ideoleg yn anniffiniadwy. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Libertad, Libertad, Libertad gan Milei, Javier 1970-

    Cyhoeddwyd 2022
    Libro
  2. 2

    Pandenomics la economía que viene en tiempos de mega recesión, inflación y crisis global gan Milei, Javier 1970-

    Cyhoeddwyd 2022
    Libro