Canlyniadau Chwilio - McCaffrey, Anne, 1926-2011.
Anne McCaffrey
Awdur llyfrau gwyddonias o'r Unol Daleithiau ac wedyn o Weriniaeth Iwerddon oedd Anne McCaffrey (1 Ebrill 1926 - 21 Tachwedd 2011). Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei chyfres ffuglen wyddonol ''Dragonriders of Pern''. Yn gynnar yn ei gyrfa 46 mlynedd enillodd McCaffrey Wobr Hugo am ffuglen a'r cyntaf i ennill Gwobr Nebula. Daeth ei nofel 1978 ''The White Dragon'' yn un o'r llyfrau ffuglen wyddonol gyntaf i ymddangos ar restr Gwerthwr Gorau y ''New York Times''. Roedd Todd McCaffrey yn blentyn iddi.Fe'i ganed yn Cambridge, Massachusetts cyn ymfudo i'r Iwerddon; bu farw yn Swydd Wicklow o strôc ac yno hefyd y'i claddwyd. Wedi ei chyfnod yn Ysgol Stuart Hall a Montclair High School mynychodd Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''Restoree, Dragonriders of Pern, The Ship Who Sang'' a ''Dragonsdawn''. Darparwyd gan Wikipedia