Canlyniadau Chwilio - Martínez de Hoz, José Alfredo 1925-
José Alfredo Martínez de Hoz
Gwleidydd o'r Ariannin oedd yn Weinidog Economi'r Ariannin o 1976 hyd 1981 oedd José Alfredo Martínez de Hoz (13 Awst 1925 – 16 Mawrth 2013) yn ystod oes yr jwnta filwrol. Mabwysiadodd bolisïau'r farchnad rydd gan ddad-ddiwydiannu'r Ariannin, ond cafodd ei feio pan cwympodd economi'r wlad ar ddechrau'r 1980au.Cafodd ei gyhuddo o dwyll ac o gael llaw mewn herwgipio'r dau ddyn busnes Federico a Miguel Gutheim, ond derbynnodd bardwn gan yr Arlywydd Carlos Saúl Menem ar 30 Rhagfyr 1990. Cafodd ei arestio eto am yr herwgipiadau yn 2010.
Mae'n debyg iddo farw o drawiad ar y galon. Darparwyd gan Wikipedia