Canlyniadau Chwilio - Lugones, Leopoldo.

Leopoldo Lugones

Bardd, llenor straeon byrion ac ysgrifwr yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Leopoldo Lugones (13 Mehefin 187418 Chwefror 1938). Roedd yn brif ffigur llên yr Ariannin yn nechrau'r 20g ac yn un o'r hoelion wyth ym mywyd diwylliannol ei wlad. Yn ogystal â'i gerddi a'i straeon, mae'n nodedig am ei newyddiaduraeth wleidyddol, ei feirniadaeth lenyddol, ei weithiau hanes am yr Ariannin, a'i ysgolheictod clasurol a chyfieithiadau o lenyddiaeth Hen Roeg. Ysgrifennodd hefyd un nofel, ''El ángel de la sombra'' (1926).

Ganwyd yn Villa María del Río Seco, Talaith Córdoba, yn yr Ariannin. Cychwynnodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn 16 oed drwy ysgrifennu erthyglau ar gyfer papur newydd lleol yn Córdoba. Yn 1896 symudodd i'r brifddinas Buenos Aires, a chyd-sefydlodd y cylchgrawn sosialaidd ''La montaña'' yn 1897. Mynegodd ei gredoau adain-chwith yn gryf yn y cyhoeddiad hwnnw, ac mewn ambell ysgrif mae'n dadlau dros syniadau anarchaidd.

Roedd Lugones yn un o sawl bardd arbrofol a ddilynai esiampl Rubén Darío, y llenor o Nicaragwa a sbardunodd ''modernismo'' yn llên America Ladin. Amlygir ei ymlyniad wrth amcanion y modernwyr yn ei gyfrolau o farddoniaeth rydd, ''Las montañas del oro'' (1897), ''Los crepúsculos del jardín'' (1905), a ''Lunario sentimental (1909)'', sy'n defnyddio delweddaeth wreiddiol a lliwgar. Er ei farnau radicalaidd, penodwyd Lugones i swyddi cyhoeddus gan gynnwys cyfarwyddwr dros archifau'r swyddfa bost yn 1899 a phrif arolygydd yr ysgolion uwchradd yn 1904. Gwrthwynebodd y chwyldroadwyr tra rhyddfrydol a geisiai cipio grym yn 1904, a beirniadodd yr Arlywydd José Figueroa Alcorta (1906–10) yn hallt.

Symudodd Lugones i Baris yn 1911, ac yno golygodd y ''Revue Sudaméricaine''. Dychwelodd i'r Ariannin ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, a gwelsai newid yn ei daliadau gwleidyddol yn y cyfnod hwn. Trodd ei gefn ar sosialaeth radicalaidd ei ieuenctid, a chofleidiodd genedlaetholdeb ceidwadol. Adlewyrchai'r dröedigaeth hon yn ei lenyddiaeth: rhoes y gorau i'r hen ''modernismo'' a dechreuodd ysgrifennu am themâu cenedlaetholgar, mewn arddull realaidd. Er enghraifft, mae ''El libro de los paisajes'' (1917) yn gasgliad o eidyliau sy'n moli harddwch cefn gwlad yr Ariannin. Ysgrifennodd doreth o draethodau a llyfrau sy'n ymdrin â gwleidyddiaeth, hanes, a diwylliant yr Ariannin, ac mae rhai ohonynt o hyd yn weithiau pwysig yn nhraddodiad deallusol y wlad. Yn sgil ailethol y rhyddfrydwr cymdeithasol Hipólito Irigoyen yn arlywydd yn 1928, datblygodd syniadau Lugones yn fwyfwy militaraidd ac adweithiol. Trodd yn ffasgydd, a chymerodd ran yn y chwyldro adain-dde i ddymchwel Irigoyen ym Medi 1930.

Roedd Lugones yn amlwg fel llysgennad diwylliannol dros ei wlad. Gwasanaethodd yn gyfarwyddwr y Cyngor Addysg Cenedlaethol o 1914 i 1938, a chynrychiolodd yr Ariannin ym Mhwyllgor Cynghrair y Cenhedloedd dros Gydweithrediad Deallusol yn 1924. Dylanwadodd yn gryf ar y to iau o lenorion o'r Ariannin, yn eu plith Jorge Luis Borges, a gosododd sail i ddatblygiadau addysg, celf a llên yr Ariannin.

Bu farw yn 63 oed trwy hunanladdiad. Darparwyd gan Wikipedia
  1. 1

    Las fuerzas extrañas gan Lugones, Leopoldo

    Cyhoeddwyd 1926
    Libro
  2. 2

    Mi beligerancia / gan Lugones, Leopoldo.

    Cyhoeddwyd 1917.
    Libro
  3. 3

    La guerra gaucha / gan Lugones, Leopoldo.

    Cyhoeddwyd 1926.
    Libro
  4. 4

    Mi padre : biografía de Leopoldo Lugones / gan Lugones, Leopoldo.

    Cyhoeddwyd s.f..
    Libro
  5. 5

    Elogio de Ameghino / gan Lugones, Leopoldo.

    Cyhoeddwyd 1915.
    Libro
  6. 6

    La dama de la odisea / gan Lugones, Leopoldo.

    Cyhoeddwyd 1924.
    Libro
  7. 7

    Elogio de Ameghino gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1915
    Libro
  8. 8

    350 poesías seleccionadas para niños / gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1952
    Libro
  9. 9

    Historia de Sarmiento / gan Lugones, Leopoldo, 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1931.
    Libro
  10. 10

    Roca / gan Lugones, Leopoldo, 1874-1938.

    Cyhoeddwyd 1938.
    Libro
  11. 11

    350 poesías seleccionadas para niños / gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1958
    Libro
  12. 12

    350 poesías seleccionadas para niños / gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1952
  13. 13

    El imperio jesuítico / gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1981
    Libro
  14. 14

    La guerra gaucha gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 2014
    Libro
  15. 15

    El payador / gan Lugones, Leopoldo, 1874-1938

    Cyhoeddwyd s. f.
    Libro
  16. 16

    Obras en prosa gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1962
    Libro
  17. 17

    Obras en prosa gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1962
    Libro
  18. 18

    Obras poéticas completas gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Libro
  19. 19

    Filosofícula gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Cyhoeddwyd 1924
    Libro
  20. 20

    Filosofícula gan Lugones, Leopoldo 1874-1938

    Libro