Canlyniadau Chwilio - Levin, Ira, 1929-

Ira Levin

Nofelydd a dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd Ira Marvin Levin (27 Awst 192912 Tachwedd 2007).

Ganed ym Manhattan, Dinas Efrog Newydd, ac yno ac yn y Bronx cafodd ei fagu. Mynychodd yr ysgol baratoi breifat Ysgol Horace Mann yn y Bronx. Aeth ym Mhrifysgol Drake yn Des Moines, Iowa, am ddwy flynedd cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Efrog Newydd i astudio athroniaeth a Saesneg. Wedi iddo raddio ym 1950, cytunodd ei dad, yn gyndyn, i ariannu Ira am ddwy flynedd tra yr oedd yn cychwyn ar ei yrfa lenyddol. Gwerthodd ei sgript deledu gyntaf i NBC ar gyfer y gyfres antholeg ingol ''Lights Out'' ym 1951. Ysgrifennodd hefyd i'r rhaglenni teledu ''Clocks'' a ''The United States Steel Hour''.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, y stori ddirgelwch ''A Kiss Before Dying'', ym 1953, yr un adeg iddo gael ei alw i Fyddin yr Unol Daleithiau. Gwasanaethodd gyda'r Corfflu Signalau yn Queens, Efrog Newydd, ac yno bu'n sgriptio a chynhyrchu ffilmiau hyfforddi. Enillodd ''A Kiss Before Dying'' Wobr Edgar am y nofel gyntaf orau, a chafodd ei haddasu'n ffilm ym 1956 yn serennu Joanne Woodward a Robert Wagner. Trodd Levin ei sylw at theatr Broadway, ac ym 1955 cafodd lwyddiant gyda'i addasiad o'r llyfr ''No Time for Sergeants'' gan Max Hyman. Cafwyd mwy na 700 o berfformiadau yn Broadway, gydag Andy Griffith yn y brif ran. Nid oedd ei ddramâu dilynol yr un mor lwyddiannus: cafwyd pedwar perfformiad o ''Interlock'' (1958), gyda Maximilian Schell; trimis o ''Critic's Choice'' (1960) gyda Henry Fonda; dau berfformiad o ''General Seeger'' (1962), a gyfarwyddwyd gan George C. Scott; ac wythnos yn unig y bu ei sioe gerdd, ''Drat! That Cat!'' (1966), ar y llwyfan.

Cyhoeddodd Levin ei ail nofel, y stori arswyd seicolegol ''Rosemary's Baby'', ym 1967. Addaswyd y nofel yn ffilm, a gyfarwyddwyd gan Roman Polanski ac yn serennu Mia Farrow, ym 1968. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Levin ddrama arall, ''Dr. Cook's Garden'' (1968), a'r nofel wyddonias ddystopaidd ''This Perfect Day'' (1970). Nofel wyddonias ddychanol yw ei bedwaredd nofel, ''The Stepford Wives'' (1972), a addaswyd yn ffilm ym 1975. Cafodd un arall o lyfrau Levin, y nofel wyddonias gyffrous ''The Boys from Brazil'' (1976), ei addasu'n ffilm boblogaidd, ym 1978 yn serennu Gregory Peck a Laurence Olivier. Cafodd lwyddiant mawr yn Broadway gyda'i ddrama ''Deathtrap'' (1978), a enillai Wobr Edgar ym 1980.

Priododd Levin â Gabrielle Aronsohn ym 1960, a chawsant dri mab cyn diddymu'r briodas ym 1968. Priododd Levin â Phyllis Finkel ym 1979, a diddymwyd y briodas ym 1981. Derbyniodd Wobr Bram Stoker oddi ar Gymdeithas Llenorion Arswyd yr Unol Daleithiau am gyflawniad oes, a chafodd ei urddo'n Uchel Feistr gan Lenorion Dirgelwch America. Dilyniant i ''Rosemary's Baby'' oedd ei nofel olaf, ''Son of Rosemary'' (1997), a dderbyniodd adolygiadau gwael. Ysgrifennodd ei ddrama olaf, ''Footsteps'', yn 2003. Bu farw yn ei gartref ym Manhattan yn 78 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    La semilla del diablo : Rosemary's baby gan Levin, Ira, 1929-

    Cyhoeddwyd 1978
    Libro
  2. 2

    El cuarto de Verónica gan Levin, Ira, 1929-

    Cyhoeddwyd 1975
    Libro
  3. 3

    Chip, el del ojo verde / gan Levin, Ira, 1929-

    Cyhoeddwyd 1972
    Libro
  4. 4

    Los niños del Brasil / gan Levin, Ira, 1929-

    Cyhoeddwyd 1977.
    Libro
  5. 5

    Un bacio prima di morire romanzo gan Levin, Ira 1929-2007

    Cyhoeddwyd 1968
    Libro
  6. 6

    Un beso antes de morir gan Levin, Ira 1929-2007

    Cyhoeddwyd ©1971
    Libro