Canlyniadau Chwilio - Le Corbusier 1887-1965

Le Corbusier

Pensaer Ffrengig, yn enedigol o'r Swistir oedd Le Corbusier, enw gwreiddiol Charles-Edouard Jeanneret (6 Hydref 188727 Awst 1965). Roedd hefyd yn ddylunydd, paentiwr, cynllunydd trefol, ysgrifennwr, ac yn un o arloeswyr yr hyn a ystyrir bellach yn "bensaernïaeth fodern". Fe'i ganed yn y Swistir a daeth yn ddinesydd Ffrengig ym 1930. Roedd ei yrfa'n rhychwantu pum degawd, a dyluniodd adeiladau yn Ewrop, Japan, India, a Gogledd a De America.

"Le Corbusier" oedd ei ffugenw wrth ysgrifennu i'r ''Esprit Nouveau''; yn ddiweddarach daeth i'w ddefnyddio yn lle ei enw bedydd. Ystyrir ef yn un o benseiri pwysicaf yr 20g. Nodweddion ei arddull oedd defnydd helaeth o goncrid wedi ei gryfhau a hoffter o gynlluniau mawr, hyd at gynllunio trefi cyfain. Daeth ei arddull i ddwyn yr enw Pensaernïaeth Friwtalaidd, enw a ddaeth o'r Ffrangeg ''béton brut'', sef concrit amrwd, un o'r deunyddiau roedd Le Corbusier yn ei ffafrio.

Ei nod mewn bywyd oedd darparu gwell amodau byw i drigolion dinasoedd gorlawn, ac roedd Le Corbusier yn ddylanwadol mewn cynllunio trefol, ac roedd yn aelod sefydlol o'r ''Congrès International d'Architecture Moderne'' (CIAM). Paratôdd Le Corbusier y prif gynllun ar gyfer dinas Chandigarh yn India, a chyfrannodd ddyluniadau penodol ar gyfer sawl adeilad yno, gan gynnwys adeiladau'r llywodraeth.

Ar 17 Gorffennaf 2016, cofrestrwyd un-deg-saith o brosiectau gan Le Corbusier, mewn saith gwlad, yn rhestr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO fel 'Gwaith Pensaernïol Le Corbusier, Cyfraniad Eithriadol i'r Mudiad Modern'.

Fodd bynnag, mae Le Corbusier yn parhau i fod yn ffigwr dadleuol. Mae rhai o'i syniadau cynllunio trefol wedi cael eu beirniadu'n hallt am eu difaterwch â safleoedd diwylliannol gerllaw, mynegiant a thegwch cymdeithasol, ac mae ei gysylltiadau â ffasgaeth, gwrthsemitiaeth a'r unben Benito Mussolini wedi arwain at rywfaint o gynnen barhaus yn ei gylch. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Quand les cathédrales etaient blanches : voyage au pays des timides / gan Le Corbusier, 1887-1965.

    Cyhoeddwyd c1937.
  2. 2

    Mensaje a los estudiantes de arquitectura gan Le corbusier 1887-1965

    Cyhoeddwyd 1959
    Libro
  3. 3

    Mensaje a los estudiantes de Arquitectura gan Le Corbusier 1887-1965

    Cyhoeddwyd 1961
    Libro
  4. 4

    Cuando las catedrales eran blancas viaje al país de los tímidos gan Le Corbusier 1887-1965

    Cyhoeddwyd ©1948
    Libro