Canlyniadau Chwilio - Kingsley, Ben 1943-

Ben Kingsley

Actor o Loegr ydy Sir Ben Kingsley, CBE (ganed Krishna Pandit Bhanji; 31 Rhagfyr 1943). Yn ystod ei yrfa sydd wedi ymestyn dros deugain mlynedd, mae ef wedi ennill Oscar, Grammy, BAFTA, dau Golden Globe a Gwobr Urdd yr Actorion Sgrin. Mae ef fwyaf adnabyddus am chwarae'r brif ran fel Mohandas Gandhi yn y ffilm ''Gandhi'' ym 1982, pan enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau. Chwaraeodd rannau hefyd yn y ffilmiau ''Schindler's List'' (1993), ''Sexy Beast'' (2000), ''Lucky Number Slevin'' (2006), ''Shutter Island'' (2010), ''Prince of Persia: The Sands of Time'' (2010), ''Hugo'' (2011), a ''Iron Man 3'' (2013). Yn 2013 derbyniodd wobr 'Albert R. Broccoli am Gyfraniad Fyd-eang i Adloniant Ffilm' yn BAFTA Los Angeles.

Derbyniodd Kingsley Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 2000, ac fe'i wnaed yn Farchog Gwyryf gan y Frenhines Elizabeth II yn 2002. Yn 2010, cafodd Kingsley seren ar Lwybr Enwogion Hollywood. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    La hija de Auschwitz gan Friedman, Tova 1938-

    Cyhoeddwyd 2023
    Awduron Eraill:
    Libro