Canlyniadau Chwilio - Icaza, Jorge 1906-1978

Jorge Icaza

Nofelydd, dramodydd, a diplomydd o Ecwador oedd Jorge Icaza Coronel (10 Gorffennaf 190626 Mai 1978).

Ganwyd yn Quito, prifddinas Ecwador. Cychwynnodd ar yrfa yn ysgrifennu i'r theatr, ond trodd at y nofel pan gafodd ei geryddu am y ddrama ''El dictador'' (1933). Mae ei nofel gyntaf, ''Huasipungo'' (1934), yn ymwneud â brwydr y bobloedd frodorol yn erbyn y tirfeddianwyr. Dyma enghraifft bwysig o lên y mudiad ''indigenismo'', a bu'n codi cywilydd ar y dosbarth uchaf yn Ecwador yn sgil ei cyhoeddi. Ymhlith ei nofelau eraill, y mwyafrif ohonynt yn bortreadau realaidd o fywydau'r tlodion a'r brodorion, mae ''En las calles'' (1934), ''Media vida deslumbrados'' (1942), ''Huairapamushcas'' (1948), ''Seis veces la muerte'' (1954), ac ''El chulla Romero y Flores'' (1958).

Yn y 1970au gwasanaethodd Icaza yn llysgennad Ecwador i Beriw a'r Undeb Sofietaidd. Bu farw yn Quito yn 71 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    En las calles novela gan Icaza, Jorge 1906-1978

    Cyhoeddwyd 1936
    Libro
  2. 2

    Huasipungo gan Icaza, Jorge 1906-1978

    Cyhoeddwyd 2004
    Libro