Canlyniadau Chwilio - Ibáñez, Sara de
Sara de Ibáñez
Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Sara de Ibáñez (10 Ionawr 1909 – 3 Ebrill 1971). Roedd yn briod i'r bardd a beirniad llenyddol Roberto Ibáñez.Ganwyd Sara Iglesias Casadei ym mhentref Chamberlain, Talaith Tacuarembó, Wrwgwái. Priododd Roberto Ibáñez yn 1928.
Yn ei gwaith mae'n cyfuno themâu hanesyddol, yn aml mewn arddull epig, er enghraifft ''Canto a Montevideo'' (1941) ac ''Artigas'' (1952), â barddoniaeth delynegol ar bynciau cyffredin, megis rhyfel, marwolaeth, natur, a serch, er enghraifft ''Canto'' (1940), ''Pastoral'' (1948), ac ''Apocalípsis'' (1970). Roedd yn hoff o ddefnyddio ffurfiau traddodiadol, megis y soned, yn ogystal â mesurau rhydd.
Bu farw ym Montevideo yn 62 oed. Darparwyd gan Wikipedia