Canlyniadau Chwilio - Herrera y Reissig, Julio 1875-1910
Julio Herrera y Reissig
Bardd ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Julio Herrera y Reissig (9 Ionawr 1875 – 18 Mawrth 1910). Roedd yn un o lenorion y mudiad ''modernismo'' ac yn aelod o ''Generación del 900''.Ganwyd ym Montevideo i deulu cefnog. Ei ewythr oedd Julio Herrera y Obes, Arlywydd Wrwgwái o 1890 i 1894. Bu'n dioddef o galon sâl drwy gydol ei oes, a bu'n rhaid iddo ymddeol o'i swyddi fel clerc y Swyddfa Dollau ac arolygydd cynorthwyol yr ysgolion cynradd oherwydd ei afiechyd. Ymunodd â bywyd bohemaidd Montevideo, tra'n dibynnu ar ei deulu am arian, ac arloesodd technegau newydd a themâu rhyfedd ym marddoniaeth Sbaeneg. Cyhoeddodd y cylchgrawn llenyddol ''La Revista'' (1899–1900).
Cafodd drawiad ar ei galon yn 1900. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth a rhyddiaith, nifer ohonynt a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth: ''Los maitines de la noche'' (1902), ''Epílogo wagneriano a la "política de fusión"'' (1902), ''Poemas violetas'' (1906), ''La vida'' (1906), ''Los peregrinos de piedra'' (1909), ''Pianos crepusculares'' (1910), ''Las pascuas del tiempo'' (1913), ''Prosas: Críticas, cuentos, comentarios'' (1918), ''Ópalos: Poemas en prosa'' (1919), ''Los parques abandonados'' (1919), a ''Las lunas de oro'' (1924).
Bu farw ym Montevideo yn 35 oed. Darparwyd gan Wikipedia