Canlyniadau Chwilio - Graham, Billy
Billy Graham
Efengylydd Cristnogol o'r Unol Daleithiau oedd William Franklin Graham, Jr. OBE, a adnabyddwyd fel Billy Graham (7 Tachwedd 1918 – 21 Chwefror 2018). Rhoddodd cyngor ysbrydol i sawl Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe ddaeth yn seithfed ar restr Gallup o'r bobl gafodd eu hedmygu fwyaf yn ystod yr 20g. Roedd yn perthyn i enwad Bedyddwyr y De.Dywedir bod Graham wedi pregethu'n fyw i fwy o bobl o amgylch y byd nag unrhyw un arall erioed. Hyd at 1993, roedd mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi ymateb i'w apel yn ei ymgyrchoedd i "dderbyn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol". Hyd at 2002, roedd ei gynulleidfa gydol oes, gan gynnwys darllediadau radio a theledu, wedi cynyddu i dros 2,000 miliwn.
Bu farw yn 99 oed. Darparwyd gan Wikipedia