Canlyniadau Chwilio - Garmendia, Salvador 1928-2001
Salvador Garmendia
Nofelydd, awdur straeon byrion, a sgriptiwr ffilm a theledu o Feneswela oedd Salvador Garmendia (11 Mehefin 1928 – 13 Mai 2001).Roedd yn hanu o Barquisimeto yn nhalaith Lara yng ngorllewin Feneswela.
Ysgrifennodd y nofelau ''Los pequeños seres'' (1959), ''Día de cenizas'' (1963), ''Los habitantes'' (1968), ac ''El Capitán Kid'' (1988), gweithiau sy'n efelychu'r ''nouveau roman'' Ffrangeg o ran technegau'r adroddiant. Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae ''Crónicas sádicas'' (1990) a ''Cuentos cómicos'' (1991). Yn ogystal â'i lyfrau ffuglen, mae'n nodedig am ysgrifennu sgriptiau ''telenovelas'' yn y 1970au. Ysgrifennodd hefyd y ffilmiau ''Fiebre'' (1975), ''Juan Tapocho'' (1977), a ''La Gata Borracha'' (1983). Enillodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1972, a Gwobr Juan Rulfo yn 1989 am ei lyfr ''Tan desuda como una piedra''.
Bu farw o gymhlethdodau o ganser a chlefyd y siwgr yn Caracas yn 72 oed. Darparwyd gan Wikipedia