Canlyniadau Chwilio - Garland, Alex
Alex Garland
Nofelydd a sgriptiwr o Loegr yw Alex Garland (ganed 1970).Mae'n fab i'r cartŵnydd gwleidyddol Nick (Nicholas) Garland. Mynychodd yr ysgol annibynnol University College School, yn Hampstead, Llundain, cyn mynd i Brifysgol Manceinion i astudio hanes celf.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ''The Beach'', a soniai am ei brofiadau tra'n teithio ym 1996. Daeth y nofel hwn yn glasur cwlt a chafodd ei wneud yn ffilm gan y cyfarwyddwr Danny Boyle. Serennodd Leonardo DiCaprio yn y ffilm.
Cyhoeddwyd ail nofel Garland ''The Tesseract'' ym 1998. Cafodd y nofel hon ei throsi'n ffilm yn serennu Jonathan Rhys Meyers. Yn 2003, ysgrifennodd y sgript ar gyfer ffilm Danny Boyle 28 Days Later. Cafodd ei drydedd nofel, ''The Coma'' ei chyhoeddi yn 2004.
Yn 2007, ysgrifennodd Garland y sgript ar gyfer y ffilm ''Sunshine'' - ei ail sgript i gael ei chyfarwyddo gan Danny Boyle ac i serennu Cillian Murphy fel y prif gymeriad. Gweithiodd Garland fel uwch-gynhyrchydd ''28 Weeks Later'', sef y dilyniant i ''28 Days Later''.
Ei bartner yw'r actores / cyfarwyddwr Paloma Baeza. Darparwyd gan Wikipedia