Canlyniadau Chwilio - García Lorca, Federico 1989-936
Federico García Lorca
bawd|200px|Cerfddelw García Lorca yn y plaza de Santa Ana yn MadridRoedd Federico García Lorca (5 Mehefin 1898 - 18 Awst 1936) yn fardd a dramodydd o Sbaen. Ystyrir ef yn un o brif lenorion Sbaen yn yr 20g; ei waith enwocaf yw'r ddrama ''Bodas de sangre'' ("Priodas Waed") (1933).
Ganed ef yn Fuente Vaqueros, gerllaw Granada yn Andalucía. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, ''Impresiones y paisajes'', yn 1918. Yn 1929 teithiodd i Efrog Newydd, lle cyfansoddodd gyfrol o gerddi.
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, roedd ym Madrid. Roedd Lorca yn adnabyddus fel cefnogwr y chwith yn wleidyddol, ond mynnodd deithio yn ôl i Granada, oedd yn nwylo cefnogwyr Franco. Ar 16 Awst 1936 roedd yn aros yn nhŷ cyfaill pan gymerwyd ef yn garcharor. Saethwyd ef ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Darparwyd gan Wikipedia