Canlyniadau Chwilio - Frugoni, Emilio.
Emilio Frugoni
Gwleidydd, cyfreithiwr, a llenor o Wrwgwái oedd Emilio Frugoni (30 Mawrth 1880 – 28 Awst 1969). Sefydlodd Blaid Sosialaidd Wrwgwái, a mynegodd ei syniadau gwleidyddol yn ei ysgrifeniadau, gan gynnwys ''Socialismo, batllismo y nacionalismo'' (1928), ''La revolución del machete'' (1935), ''Ensayos sobre marxismo'' (1936), a ''Génesis, esencia y fundamentos del socialismo'' (1947). Cyhoeddodd 12 cyfrol o farddoniaeth delynegol.Er ei daliadau Marcsaidd, roedd Frugoni yn cefnogi'r Arlywydd José Batlle y Ordóñez (1903–07, 1911–15), arweinydd y Partido Colorado, a chanddi ideoleg ryddfrydach. Dadleuodd Frugoni o blaid diwygiadau moesol Batlle, gan gynnwys cyfreithloni ysgariad a diddymu'r gosb eithaf, yn ogystal â chefnogaeth dros y mudiad llafur, gweithiau cyhoeddus, ac adeiladau ysgolion. Yn 1910, cefnogodd Frugoni y llywodraeth yn erbyn bygythiad chwyldro gan y Partido Blanco a'r Radicalwyr.
Dadleuodd Frugoni ers 1904 dros ffurfio mudiad sosialaidd i drefnu'r gweithwyr yn wleidyddol, a sefydlwyd y Blaid Sosialaidd ganddo yn 1910. Ysgrifennodd faniffesto'r blaid, gan ddatgan ei chefnogaeth dros y cyfansoddiad a'r drefn wleidyddol yn hytrach nag ymgyrchoedd chwyldroadol a threisgar yr anarchwyr. Etholwyd Frugoni i'r gyngres genedlaethol ar gyfer y tymor 1911–14, a chydweithiodd gyda'r Arlywydd Batlle wrth ddeddfu dros les y dosbarth gweithiol.
Penodwyd Frugoni yn ddeon Prifysgol y Weriniaeth yn 1933. Gwasanaethodd yn llysgennad Wrwgwái i'r Undeb Sofietaidd o 1945 i 1948, ac ysgrifennodd lyfr am ei brofiadau, ''La esfinge roja'' (1948), sy'n canmol datblygiadau'r Sofietiaid ond yn mynegi pryder am gamdriniaethau hawliau dynol yn y wlad. Darparwyd gan Wikipedia