Canlyniadau Chwilio - Fontana, Luis Jorge 1846-1920

Luis Jorge Fontana

Swyddog milwrol, fforiwr ac awdur o'r Ariannin oedd Luis Jorge Fontana (19 Ebrill 184618 Hydref 1920). Ef oedd llywodraethwr cyntaf talaith Chubut a sylfaenydd dinas Formosa.

Ganed Fontana yn Buenos Aires, mab Luis María Fontana, swyddog mewn llywodraeth Juan Manuel de Rosas, a Doña Irene Burgeois, a symudodd ei deulu i Carmen de Patagones pan oedd yn ieuanc, Yn dair ar ddeg oedd aeth yn bentis yn y fyddin yn nhalaith Río Negro. Ymladdodd yn y rhyfel yn erbyn Paragwái, cyn dychwelyd i Buenos Aires i astudio. Dychwelodd i'r fyddin, a chymerodd ran yn y gwaith o fforio'r Chaco, gan sefydlu dinas Formosa yn 1879.

Yn 1884 pendodwyd ef yn llywodraethwr cyntaf tiriogaeth newydd Chubut. Yn 1885 arweiniodd daith cwmni a elwid y ''Rifleros del Chubut'', oedd yn cynnwys nifer o Gymry o'r Wladfa, i fforio rhan uchaf Dyffryn Camwy i gyfeiriad yr Andes. Ar y daith yma y cafwyd hyd i'r diriogaeth a alwyd yn ''valle 16 de Octubre'', neu Cwm Hyfryd i'r Cymry. Roedd yn amlwg yn ardal ffrwythlon, a threfnwyd i wladychwyr Cymreig symud yno o ran isaf Dyffryn Camwy, gan sefydlu tref Trevelin. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    El Gran Chaco / gan Fontana, Luis Jorge 1846-1920

    Cyhoeddwyd 2009
    Libro
  2. 2

    El Gran Chaco / gan Fontana, Luis Jorge 1846-1920

    Cyhoeddwyd 2009
    Libro