Canlyniadau Chwilio - Florit, Eugenio

Eugenio Florit

Bardd, cyfieithydd, a beirniad llenyddol o Giwba a aned yn Sbaen oedd Eugenio Florit (15 Hydref 190322 Mehefin 1999) sy'n nodedig am ei delynegion. Cyhoeddodd 34 o gyfrolau o farddoniaeth yn ystod ei oes.

Ganwyd ym Madrid, Teyrnas Sbaen. Symudodd i Giwba yn 14 oed. Astudiodd am radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol La Habana. Roedd yn gysylltiedig â ''Revista de Avance''. Symudodd i Ddinas Efrog Newydd yn 1940, a chafodd swydd yn y gonswliaeth Giwbaidd. Ysgrifennodd ar gyfer y cylchgrawn Ciwbaidd ''Orígenes'', ac yn Efrog Newydd cyd-olygodd ''Revista hispánica moderna'' gyda Federico de Onís ac Angel del Río. Dechreuodd weithio yng Ngholeg Barnard yn 1944, a bu'n addysgu llenyddiaeth Sbaeneg ac America Ladin nes iddo ymddeol yn 1969. Fe'i penodwyd yn athro emeritws ar bwnc llên America Ladin. Bu farw yn ei gartref ym Miami yn 95 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Antología de la poesía norteamericana contemporanea / gan Florit, Eugenio

    Cyhoeddwyd 1955
    Libro
  2. 2

    Literatura hispanoamericana : : antología e introducción histórica / gan Anderson Imbert, Enrique.

    Cyhoeddwyd 1966.
    Awduron Eraill: “...Florit, Eugenio....”
    Libro