Canlyniadau Chwilio - Evans, Nicholas 1950-

Nicholas Evans

| dateformat = dmy}}

Arlunydd o Gymru oedd Nicholas Evans (10 Ionawr 19075 Chwefror 2004) , yn fwyaf adnabyddus yn y byd celf fel Nick Evans. Roedd e'n beintiwr hunanddysgedig. Dylanwadwyd ei waith gan ei ddaliadau ysbrydol fel Pentecostiad.

Cafodd Evans ei eni yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf. Cydnabuwyd dawn Evans mewn arlunio gan un o'i athrawon ysgol gynradd. Rhoddodd y gorau iddi ar ôl ychydig, fodd bynnag, am nad oedd e'n gallu fforddio prynu papur. Dechreuodd weithio fel glöwr, ond ni pharhaodd hyn ond am dair blynedd, yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1923, a effeithiodd yn fawr ar Evans. Roedd ei fam hefyd wedi gweithio yn y pyllau glo.

Dychwelodd Evans i hobi ei blentyndod o arlunio yn ei chwedegau, ar ôl ymddeol. Arddangoswyd ei waith yn 1972. Yn 1978, yn 71 oed, cynhaliodd arddangosfa unigol yn Oriel Caerdydd. Yn dilyn yr ymateb cadarnhaol arweiniodd hyn at arddangosfa arall, mewn oriel yn Mayfair Llundain.

Ceir ei luniau mewn sawl oriel gyhoeddus, gan gynnwys y Tate Modern ac Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe. Yn 1987 cydweithiodd gyda'i ferch, Rhoda, i gynhyrchu llyfr am ei gelfyddyd.

Bu farw Evans yn 2004 yn 96 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    A través del fuego gan Evans, Nicholas 1950-

    Cyhoeddwyd 2003
    Libro