Canlyniadau Chwilio - Estébanez Calderón, Serafín 1799-1867
Serafín Estébanez Calderón
Llenor Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Serafín Estébanez Calderón (27 Rhagfyr 1799 – 5 Chwefror 1867), a adwaenir gan y llysenw El Solitario, sydd yn nodedig fel un o arloeswyr mudiad ''costumbrismo''.Ganed ym Málaga, Andalucía. Symudodd i Fadrid yn 1830 a chyhoeddodd newyddiaduraeth dan y llysenw El Solitario. Ysgrifennodd ''Escenas andaluzas'' (1847), cyfrol o ddarluniadau o fywyd gwledig Andalucía, Bu hefyd yn cyfansoddi barddoniaeth, astudio'r iaith Arabeg a'i llenyddiaeth, ac yn casglu llawysgrifau. Bu farw ym Madrid yn 67 oed. Darparwyd gan Wikipedia