Canlyniadau Chwilio - Edwards, Jorge 1931-2023
Jorge Edwards
Nofelydd a beirniad llenyddol Sbaeneg a diplomydd o Tsile oedd Jorge Edwards (29 Mehefin 1931 – 17 Mawrth 2023) sy'n nodedig am ei hunangofiant o'i gyfnod yn llysgennad Tsile i Giwba, ''Persona non grata'' (1973).Ganwyd yn Santiago de Chile i deulu o dras Gymreig. Derbyniodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Tsile yn 1958 ac ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol. Fe'i anfonwyd gan y llywodraeth i astudio gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Princeton yn 1959. Yn ystod ei yrfa lenyddol gynnar cyhoeddodd sawl casgliad o ffuglen fer, gan gynnwys ''El patio'' (1952), ''Gente de la ciudad'' (1961), ''Las máscaras'' (1967), a ''Temas y variaciones'' (1969), sy'n ymwneud â chymeriadau dosbarth-canol sy'n gweithio yn y fiwrocratiaeth. Mae ei nofelau hefyd yn ymdrin â bywyd y dosbarth canol a themâu gwleidyddol, yn eu plith ''El peso de la noche'' (1965), ''Los convidados de piedra'' (1978), ''El museo de cera'' (1981), ''La mujer imaginaria'' (1985), ''El anfitrión'' (1987), ac ''El origen del mundo'' (1996).
Yn ei lyfr ''Persona non grata'', sy'n ymwneud â'i brofiadau yn llysgennad i Giwba yn nechrau'r 1970au, mynegodd Edwards feirniadaeth o lywodraeth sosialaidd Fidel Castro. Derbyniodd ymateb cymysg gan lenorion eraill ar draws America Ladin, nifer ohonynt yn aelodau'r adain chwith.
Derbyniodd Wobr Cervantes yn 1999. Mae ei gweithiau diweddarach yn cynnwys ''El inútil de la familia'' (2004), sy'n seiliedig ar hanes ei ewythr, a ''La casa de Dostoievsky'' (2008), stori am fardd yr ''avant-garde'' sy'n teithio i Giwba yn y 1960au. Ysgrifennodd Edwards hefyd y gyfrol ''Adiós, poeta'' (1990), astudiaeth o Pablo Neruda. Darparwyd gan Wikipedia