Canlyniadau Chwilio - Díaz, José Pedro
José Pedro Díaz
Bardd, nofelydd, ysgrifwr, a beirniad llenyddol o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd José Pedro Díaz (12 Ionawr 1921 – 3 Gorffennaf 2006). Roedd efe a'i wraig, y bardd Amanda Berenguer, yn aelodau ''La Generación del 45'', mudiad o lenorion o Wrwgwái a flodeuai yng nghanol yr 20g. Yn ogystal â'i farddoniaeth a'i nofelau, mae Díaz yn nodedig am ei feirniadaeth sy'n ymdrin â llên Ffrainc.Priodasant Díaz a Berenguer yn nechrau eu hugeiniau, a thra'n byw gyda'i theulu hi fe wnaethon nhw sefydlu gwasg La Galatea yn y garej. Derbyniodd Díaz rodd ariannol yn 1950 ac aeth i Wlad Belg fel swyddog diwylliannol anrhydeddus, a thros y ddwy flynedd olynol daeth y ddau ohonynt yn gyfarwydd â ffigurau a mudiadau llenyddol Ewrop.
Yn ogystal â'i feriniadaeth sy'n ymdrin â llên ei famwlad, gan gynnwys astudiaethau ganddo o Felisberto Hernández a Delmira Agustini, enillodd Díaz enw fel un o'r beirniaid amlycaf yn America Ladin i ysgrifennu am lenorion Ffrengig, megis Honoré de Balzac ac André Gide. Cyhoeddodd nifer o'i ysgrifau yn y cylchgrawn wythnosol ''Correo de los viernes''. Ysgrifennodd hefyd astudiaethau beirniadol o waith y bardd Sbaenaidd Gustavo Adolfo Bécquer, a gesglid mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn 1953.
Fel awdur ffuglen, cydnabyddir Díaz am ei nofelau ''Los fuegos de San Telmo'' (1964), sy'n ymwneud ag hanes yr Wrwgwaiaid o dras Eidalaidd, a ''Partes de naufragios'' (1969), stori am fywyd ym Montevideo yn y 1930au a'r 1940au. Darparwyd gan Wikipedia