Canlyniadau Chwilio - Cujas, Jacques 1522-1590
Jacques Cujas
Cyfreithegwr ac ysgolhaig clasurol o Ffrainc oedd Jacques Cujas (; 1522 – 4 Hydref 1590) sydd yn nodedig am ei astudiaethau o'r gyfraith Rufeinig.Ganed ef yn Toulouse, Teyrnas Ffrainc, ac yno astudiodd y gyfraith. Bu'n athro ym mhrifysgolion Toulouse, Valence, a Bourges, gan ennill enw ar draws Ewrop, ac ymhlith ei ddisgyblion oedd Joseph Justus Scaliger a Pierre Pithou. Bu farw Jacques Cujas yn Bourges.
Cyfreithiau Iwstinian oedd maes arbenigol Cujas. Cesglid yn ei ''Paratitla'' wirebau byrion ac eglur o Grynhoad a Chôd Iwstinian sydd yn cyfleu egwyddorion sylfaenol y gyfraith Rufeinig. Cyflawnodd Cujas hefyd argraffiad o Gôd Theodosiws. Cyhoeddwyd argraffiad llawn o weithiau Cujas, mewn deg cyfrol, gan Charles Annibal Fabrot ym 1658. Darparwyd gan Wikipedia