Canlyniadau Chwilio - Conran, Shirley 1932-

Shirley Conran

| dateformat = dmy}} Newyddiadurwr ac awdures Seisnig oedd Y Fonesig Shirley Ida Conran DBE (ganwyd Pearce; 21 Medi 19329 Mai 2024). Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei llyfr ''Superwoman'' (1975).

Cafodd Conran ei geni yn Llundain. Mynychodd Ysgol Ferched St Paul, Llundain, ac yna ysgol orffen yn y Swistir; roddodd yr ysgol ychydig o ysbrydoliaeth yn ddiweddarach i'r ysgol ffuglennol ''L'Hirondelle' yn ei nofel ''Lace'' (1982). Gwnaeth hi adael cartref yn 19 oed. Bu'n gweithio fel model, ac yna hyfforddodd fel cerflunydd yng Ngholeg Celf, Portsmouth (bellach yn rhan o Brifysgol Southampton), ac fel peintiwr yng Ngholeg Polytechnig Chelsea (bellach yn rhan o Brifysgol y Celfyddydau Llundain).

Priododd â Terence Conran ym 1955; ysgarodd ym 1962; yr oeddent yn rhieni i ddau fab: Sebastian a Jasper Conran, y ddau yn ddylunwyr. Roedd gan Conran gartrefi yn Ffrainc a Llundain, a bu'n byw ym Monaco am nifer o flynyddoedd. Sefydlodd y rhaglen addysgol di-elw Maths Action. Bu farw, yn 91 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Carmesi gan Conran, Shirley 1932-

    Cyhoeddwyd 1993
    Libro