Canlyniadau Chwilio - Coloane, Francisco, 1910-2002.
Francisco Coloane
Nofelydd ac awdur straeon byrion o Tsile oedd Francisco Coloane (19 Gorffennaf 1910 – 5 Awst 2002) sy'n nodedig am ei ffuglen antur, yn enwedig straeon am y môr.Ganwyd yn Quemchi ar ynys Chiloé a threuliodd ei ieuenctid yn neheudir y wlad. Symudodd i Santiago i weithio'n newyddiadurwr.
Enillodd wobr Llyfr Tsileaidd y Flwyddyn am ei gyfrol ''Golfo de penas'' (1945), a derbyniodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1964. Cyhoeddodd ei hunangofiant, ''Los pasos del hombre'', yn 2000. Bu farw yn Santiago yn 92 oed. Darparwyd gan Wikipedia