Gwyddel
| dateformat = dmy
}}
: ''Am eraill o'r un enw, gweler Michael Collins (gwahaniaethu).''
Roedd Michael John ("Mick") Collins neu Micheál Ó Coileáin (16 Hydref1890 – 22 Awst1922) yn arweinydd y gwrthryfel Gwyddelig yn erbyn Prydain ac yn Weinidog Cyllid a phennaeth y Lluoedd Arfog i Weriniaeth Iwerddon
Ganed Michael Collins yn Sam's Cross, ger Clonakilty, Swydd Corc, Iwerddon, i deulu o ffermwyr gweddol gefnog. Roedd ei dad, hefyd yn Michael Collins, yn 60 oed pan briododd Marianne O'Brien. Cawsant wyth o blant, ond bu farw ei dad pan oedd Mick yn chwech oed.
Gadawodd Colins yr ysgol yn bymtheg oed ac aeth i Lundain i chwilio am waith. Yno ymunodd a'r Frawdoliaeth Weriniaethol Wyddelig (IRB), cymdeithas oedd yn ymladd am annibyniaeth Iwerddon.
Darparwyd gan Wikipedia