Canlyniadau Chwilio - Chandler, Raymond, 1888-1959.

Raymond Chandler

Nofelydd, llenor straeon byrion, a sgriptiwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Raymond Thornton Chandler (23 Gorffennaf 188826 Mawrth 1959) sy'n nodedig fel un o feistri ffuglen drosedd yn yr iaith Saesneg. Ei gymeriad enwocaf ydy'r ditectif preifat Philip Marlowe, un o arwyr y genre ''hardboiled'' o ffuglen dditectif.

Ganed ef yn Chicago, Illinois, Unol Daleithiau America. Gwyddeles oedd ei fam, ac o 1896 i 1912 trigiannodd Chandler gyda hi yn Lloegr, a derbyniodd ddinasyddiaeth Brydeinig. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau ym 1912 ac ymsefydlodd yng Nghaliffornia. Ym 1917, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, teithiodd i Victoria, British Columbia, ac ymunodd â Byddin Alldeithiol Canada. Gwasanaethodd yn y ffosydd ar Ffrynt y Gorllewin, a chafodd ei hyfforddi yn yr Awyrlu Brenhinol. Dychwelodd i Galiffornia ym 1919 a chychwynnodd ar yrfa fusnes yn y diwydiant olew. Erbyn 1931, fe'i dyrchafwyd yn is-lywydd y Dabney Oil Syndicate, ond cafodd ei ddiswyddo blwyddyn yn ddiweddarach oherwydd ei alcoholiaeth a'i ymddygiad personol.

Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, trodd Chandler at ysgrifennu i ennill ei damaid, a chyhoeddwyd ei stori fer gyntaf yn y cylchgrawn pwlp ''Black Mask'' ym 1933. Dechreuodd gweithio yn Hollywood ym 1943, ac ysgrifennai'r sgriptiau ar gyfer sawl clasur sinema drosedd, gan gynnwys y ''films noirs'' ''Double Indemnity'' (1944), ''The Blue Dahlia'' (1946), a (gyda Czenzi Ormonde) ''Strangers on a Train'' (1951).

Ysgrifennodd Chandler saith nofel, pob un yn ymwneud â'r ditectif Philip Marlowe: ''The Big Sleep'' (1939), ''Farewell, My Lovely'' (1940), ''The High Window'' (1942), ''The Lady in the Lake'' (1943), ''The Little Sister'' (1949), ''The Long Goodbye'' (1953), a ''Playback'' (1958). Cyhoeddodd hefyd sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys ''Five Murderers'' (1944). Bu farw Raymond Chandler yn La Jolla, Califfornia, yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    The big sleep / gan Kerr, Rosalie.

    Cyhoeddwyd 1991.
    Awduron Eraill: “...Chandler, Raymond, 1888-1959....”