Canlyniadau Chwilio - Castro, Rosalía de 1837-1885
Rosalía de Castro
Roedd Rosalía de Castro (24 Chwefror 1837 – 15 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd.Ysgrifennodd yn Galego (Galisieg) ar adeg pan roedd yr iaith wedi'i gormesu ac ond wedi'i ystyri'n dafodiaith y werin ddi-addysg.
Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth ''Cantares gallegos'' (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel ''Día das Letras Galegas'' - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia.
Roedd ''Follas novas'' (Dail newydd), 1880, ei hail gasgliad yn y Galisieg a'r olaf. Ystyrir y gyfrol hon yn glasur o fewn llenyddiaeth Galisiaidd. Dyma hefyd uchafbwynt gyrfa Castro, gan ei fod yn cynrychioli'r cyfnod rhwng ''Cantares gallegos'' a'i nofel radical ''En las orillas del Sar'' (1884) a sgwennwyd mewn Sbaeneg. Mae rhan olaf ''Follas novas'' am ferched a adawyd yng Ngalisia, wedi i'w gwŷr eu gadael i chwilio am waith.
Priododd Manuel Murguía (1833–1923), yn un o brif ffigyrau y ''Rexurdimento'' (adfywiad) – mudiad llenyddol rhamantaidd i hybu llenyddiaeth a'r iaith Galego. Cafodd y cwpl 7 o blant.
Roedd bywyd Castro wedi'i effeithio gan dristwch a thlodi. Gwrthwynebodd gamddefnydd awdurdod ac roedd yn gefnogwr brwd o hawliau merched.
Mae ei gwaith yn cyfleu cryfder enaid pobl werin Galisia – eu llawenydd, doethineb a thraddodiadau, eu dicter at ormes Sbaen, a'u tristwch yn wyneb tlodi ac alltudio i dde America. Mae ei gwaith wedi nodi gan ''saudade'' (hiraeth).
Mae ei gwaith wedi'i gyffeithiau i nifer fawr o ieithoedd ac mae ei henw i weld ar enwau parciau, strydoedd, ysgolion a busnesau fel caffis a gwestai. Mae ei llun wedi ymddangos ar stampiau ac ar hen arian Sbaen y peseta. Darparwyd gan Wikipedia