Canlyniadau Chwilio - Capablanca, José Raúl

José Raúl Capablanca

Chwaraewr gwyddbwyll o Giwba oedd José Raúl Capablanca y Graupera (19 Tachwedd 18888 Mawrth 1942) ac ef oedd trydydd Pencampwr Gwyddbwyll y Byd (rhwng 1921 a 1927). Mae’n enwog am ei sgil eithriadol yn y diweddglo ac am gyflymder ei chwarae.

Ganwyd Capablanca yn La Habana ym 1888. Trechodd Bencampwr Ciwba, Juan Corzo, mewn gêm ar 17 Tachwedd, 1901 dau ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn dair-ar-ddeg. Cafodd wahoddiad i dwrnamaint San Sebastian 1911 yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn Frank Marshall ym 1909, ac enillodd o flaen chwaraewyr blaenllaw fel Akiba Rubinstein, Aron Nimzowitsch a Siegbert Tarrasch. Dros y blynyddoedd nesaf, cafodd ganlyniadau da mewn twrnamaintiau. Wedi sawl ymgais aflwyddiannus i drefnu gêm gyda phencampwr y byd ar y pryd Emanuel Lasker, enillodd Capablanca y teitl ym 1921. Bu Capablanca yn ddiguro o 10 Chwefror, 1916 tan 21 Mawrth, 1924, cyfnod yn cynnwys gornest pencampwriaeth y byd gyda Lasker .

Collodd Capablanca y teitl ym 1927 i Alexander Alekhine, nad oedd erioed wedi curo Capablanca cyn hyn. Yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus i drefnu ail gêm dros nifer o flynyddoedd, aeth y berthynas rhyngddynt yn chwerw. Parhaodd Capablanca gyda canlyniadau twrnamaint rhagorol dros y cyfnod hwn ond rhoddodd y gorau i wyddbwyll difrifol ym 1931. Ail ddechreuodd ym 1934, a cael canlyniadau da, ond dangosodd hefyd symptomau pwysedd gwaed uchel, Bu farw ym 1942 o waedlif ar yr ymennydd.

Rhagorai Capablanca mewn sefyllfaoedd syml a'r diweddglo; Disgrifiodd Bobby Fischer ef fel rhywun â "chyffyrddiad ysgafn go iawn". Gallai chwarae gwyddbwyll tactegol pan oedd angen, ac roedd ganddo dechneg amddiffynnol dda. Ysgrifennodd sawl llyfr gwyddbwyll yn ystod ei yrfa, a dywedodd Mikhail Botvinnik mai ei lyfr '''Chess Fundamentals''' oedd y llyfr gwyddbwyll gorau a ysgrifennwyd erioed. Roedd yn well gan Capablanca ganolbwyntio ar eiliadau tyngedfennol mewn gêm yn hytrach na chyflwyno dadansoddiad manwl. Bu ei steil o wyddbwyll yn ddylanwadol yn chwarae pencampwyr byd y dyfodol Bobby Fischer ac Anatoly Karpov . Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    ¿Cómo jugar ajedrez? gan Capablanca, José Raúl

    Cyhoeddwyd 2011
    Libro