Canlyniadau Chwilio - Brzezinski, Zbigniew

Zbigniew Brzezinski

Diplomydd a gwyddonydd gwleidyddol o'r Unol Daleithiau a aned yng Ngwlad Pwyl oedd Zbigniew Kazimierz Brzezinski (28 Mawrth 192826 Mai 2017). Gwasanaethodd yn gynghorydd i'r Arlywydd Lyndon B. Johnson o 1966 i 1968 ac yn Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol trwy gydol arlywyddiaeth Jimmy Carter o 1977 i 1981. O ran ei safbwynt ar gysylltiadau rhyngwladol, roedd Brzezinski yn perthyn i ysgol realaidd, a saif yn nhraddodiad daearwleidyddol Halford Mackinder a Nicholas J. Spykman.

Yn ystod ei gyfnod yn y Tŷ Gwyn, ymdrinasai â sawl argyfwng a dadl polisi tramor gan gynnwys normaleiddio cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a Gweriniaeth Pobl Tsieina (a thorri cysylltiadau â Gweriniaeth Tsieina); arwyddo'r ail Gytundeb ar Gyfyngu Arfau Strategol (SALT II); Cytundebau Camp David; Chwyldro Islamaidd Iran a'r wlad honno yn troi'n erbyn yr Unol Daleithiau; anogi anghydffurfwyr yn y bloc Dwyreiniol a phwysleisio hawliau dynol er mwyn tanseilio dylanwad yr Undeb Sofietaidd; arfogi'r mujahideen yn Affganistan, gyda'r nod o wthio'r Sofietiaid i oresgynu y wlad honno; ac arwyddo'r cytundebau rhwng Carter a'r Arlywydd Torrijos o Banama ac felly ildio hawl yr Unol Daleithiau i Gamlas Panama ym 1999.

Yn ddiweddarach, roedd Brzezinski yn athro ar bolisi tramor Americanaidd ym Mhrifysgol Johns Hopkins, ysgolhaig yn y Center for Strategic and International Studies, ac yn aelod o nifer o fyrddau a chynghorau. Ymddangosodd yn aml fel arbenigwr ar rhaglenni teledu gan gynnwys ''The NewsHour with Jim Lehrer'' ar PBS, ''This Week with Christiane Amanpour'' ar ABC News, a ''Morning Joe'' ar MSNBC (mae ei ferch, Mika, yn gyd-gyflwyno'r rhaglen honno). Roedd yn gefnogwr i Broses Prâg. Arbenigwr ar bolisi tramor yw ei fab hynaf Ian, a gwasanaethodd ei fab ieuangaf Mark yn llysgennad yr Unol Daleithiau i Sweden o 2011 i 2015. Bu farw Brzezinski yn 2017 yn 89 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    El gran fracaso gan Brzezinski, Zbigniew

    Cyhoeddwyd 1989
    Libro