Canlyniadau Chwilio - Brandt, Willy

Willy Brandt

Gwleidydd o'r Almaen oedd Willy Brandt, enw genedigol Herbert Ernst Karl Frahm (18 Rhagfyr 19138 Hydref 1992). Roedd yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen o 1969 hyd 1974.

Ganed ef yn Lübeck yn fab i Martha Frahm; ni chafodd byth wybod pwy oedd ei dad. Ymunodd â phlaid ganol-chwith y SPD ym 1930, ond y flwyddyn wedyn ymunodd â phlaid fechan ymhellach ar y chwith, y Sozialistische Arbeiterpartei. Wedi i'r Natsïaid ddod i rym, ffôdd i Norwy i drefnu gwrthwynebiad iddynt. Un o'i ffugenwau o'r cyfnod hwn oedd "Willy Brandt". Pan feddiannwyd Norwy gan yr Almaen, symudodd i Sweden.

Etholwyd ef i'r Senedd ym 1949 fel aelod o'r SPD, ac yn faer Gorllewin Berlin ym 1957. Ef oedd y maer pan adeiladwyd Mur Berlin ym 1961.

Bu'n weinidog tramor, cyn dod yn Ganghellor yn 1969. Nodweddid ei gyfnod fel canghellor gan ei ymgais i ddod i delerau â'r Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw. Ar 6 Mai 1974, ymddiswyddodd yn annisgwyl. Un rheswm oedd ei fod wedi cael gwybod fod gwybodaeth am ei fywyd personol wedi dod i feddiant llywodraeth Dwyrain yr Almaen.

Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ym 1971. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Mi camino hacia Berlín : tal como Willy Brand lo contó a Leo Lania gan Brandt, Willy

    Cyhoeddwyd 1965
    Libro